Afon Todd
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Tiriogaeth y Gogledd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
23.75°S 133.8772°E ![]() |
Aber |
Afon Hale ![]() |
Llednentydd |
Afon Ross, Afon Charles ![]() |
Dalgylch |
445 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
340 cilometr ![]() |
![]() | |
Afon yn Nhiriogaeth y Gogledd, Awstralia yw Afon Todd. Mae'n llifo'n anaml, ac yn 272 cilomedr o hyd, yn dechrau 731 medr uwchben y môr, ac yn gorffen 264 medr uwchben y môr. Mae ganddi 7 llednant, gan gynnwys Colyer Creek, Afon Charles, Giles Creek, Afon Ross, Emily Creek, Jinker Creek a Williams Creek[1]. Dalgylch yr afon yw tua 445 cilomedr sgwâr. Mae'r afon yn mynd heibio'r orsaf teligraff, trwy Alice Springs, ac wedyn trwy Fwlch Heavitree ac ymlaen i Anialwch Simpson. Mae'n ymuno Afon Hale, sydd yn mynd i Lyn Eyre yn Ne Awstralia.[2]. Pan fydd glaw trwm i'r gogledd o'r dref, mae'r afon yn llifo trwy Alice Springs rhwng 6 a 8 awr hwyrach, yn mynd ar gyflymder cerdded. Enw brodorol yn afon yw Lhere Mparntwe. Enwyd yr afon gan anheddwyr ar ôl Charles Todd, cyn-bostfeistr cyffredinol Awstralia.[2].
Regata Henley on Todd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynhelir Regata Henley on Todd yn flynyddol ar trydydd dydd Sadwrn ym mis Awst.[3]. Roedd yr un cyntaf ym mis Rhagfyr 1962.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Bonzle.com
- ↑ 2.0 2.1 "Tudalen Afon Todd ar wefan Tafarn Todd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-02. Cyrchwyd 2015-01-03.
- ↑ Gwefan Henley on Todd
- ↑ Tudalen hanes ar wefan Henley on Todd