Afon Salawin
Gwedd
Math | afon drawsffiniol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Ymreolaethol Tibet |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Gwlad Tai, Myanmar |
Cyfesurynnau | 31.845°N 91.5347°E, 16.15064°N 97.55719°E |
Tarddiad | Nagqu, Tsonag Lake |
Aber | Môr Andaman |
Llednentydd | Afon Pai, Afon Moei, Afon Gyaing, Afon Nam Pang, Afon Teng, Nam Hka |
Dalgylch | 325,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,815 cilometr |
Arllwysiad | 4,876 metr ciwbic yr eiliad |
Afon yn Ne Asia yw afon Salawin, hefyd Salwin neu Salween . Mae'r afon, sy'n 2,815 km o hyd, yn tarddu yn Tibet, yna yn llifo trwy dalaith Yunnan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, lle gelir yr afon yn Nujiang. Oddi yno, llifa trwy Myanmar, lle gelwir hi yn Thanlwin. Am ran o'i hyd mae'n ffurfio'r ffîn rhwng Myanmar a Gwlad Tai, lle gelwir hi yn Mae Nam Salawin. Mae'r afon yn aberu ym Môr Andaman.
Dim ond ar hyd daern byr ger yr aber y gellir defnyddio llongau arni. Yn Tsieina, mae'n llifo heibio clogwyni uchel. Yn Yunnan, ffurfia'r afon ran o "Ardal Warchodfa y Tair Afon Gyfochrog yn Yunnan", sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.