Afon Llynfi (Pen-y-bont ar Ogwr)

Oddi ar Wicipedia
Afon Llynfi (Pen-y-bont ar Ogwr)
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5436°N 3.5914°W Edit this on Wikidata
AberAfon Ogwr Edit this on Wikidata
Map
Afon Llynfi o Bont Rhyd-y-cyff

Afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Ogwr yw Afon Llynfi.

Mae'n tarddu ar y llechweddau i'r gogledd o Caerau, ac yn llifo tua'r de ar hyd Cwm Llynfi, trwy ganol Maesteg a heibio Cwmfelin, Llangynwyd a Coytrahen cyn ymuno ag Afon Ogwr ger Abercynffig, lle mae Afon Garw hefyd yn ymuno a'r Ogwr.

Ar un adeg, roedd cyflwr dyfroedd Afon Llynfi yn wael iawn, oherwydd y pyllau glo a gweithfeydd haearn ger ei glannau. Erbyn hyn mae ansawdd y dŵr wedi gwella.


Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato