Afon Kostroma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Kostroma ger pentref Most Sandogora.

Afon yng nghanol Rwsia Ewropeaidd yw Afon Kostroma (Rwseg: Кострома́). Mae'n llifo drwy Oblast Kostroma ac Oblast Yaroslavl, ac mae'n llednant chwith i Afon Volga, ac yn llifo iddi ger Cronfa Gorky, ar gwr dinas Kostroma.

Ei hyd yw 354 cilometer (220 milltir), gyda basn o 16,000 cilometer sgwar (6,200 milltir sgwar).

Yn ogystal â Kostroma, lleolir trefi Soligalich a Buy ar yr afon.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: