Afon Isère
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Savoie, Isère, Drôme |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 45.4464°N 7.0928°E, 44.9833°N 4.8533°E |
| Tarddiad | Sources de l'Isère Glacier |
| Aber | Afon Rhône |
| Llednentydd | Arc, Arly, Bourne, Afon Drac, Doron de Bozel, Herbasse, Bréda, Charmeyran, Eau Rousse, Gelon, Morel, Morge, Ponturin, Ruisseau de la Vence, Furon, Savasse, Doménon, Q132133543 |
| Dalgylch | 11,800 cilometr sgwâr |
| Hyd | 286.1 cilometr |
| Arllwysiad | 360 metr ciwbic yr eiliad |
| Llynnoedd | Q113605124, Lac du Chevril |
![]() | |
Afon yn ne-ddwyrain Ffrainc sy'n llifo i mewn i afon Rhône yw afon Isère. Mae'n 286 km o hyd, ac yn tarddu yn yr Alpau heb fod ymhell o'r ffin â'r Eidal, gerllaw canolfan sgïo Val d'Isère. Llifa i mewn i afon Rhône yn Pont-de-l'Isère, ychydig i'r gogledd o Valence.
Ymhlith llednentydd afon Isère mae afon Arc ac afon Drac. Llifa'r afon trwy dri département: Savoie, Isère a Drôme. Ymhlith y dinasoedd a threfi ar ei glan mae Bourg-Saint-Maurice, Albertville, Grenoble a Romans-sur-Isère.

