Hari Rud

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Afon Hari Rud)
Hari Rud
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGhor Edit this on Wikidata
GwladAffganistan, Iran, Tyrcmenistan Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.613087°N 66.570355°E, 37.66152°N 60.434994°E Edit this on Wikidata
AberKarakum Desert Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Kashafrud, Jamrud River Edit this on Wikidata
Dalgylch70,600 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd1,150 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad30 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon yw Hari Rud neu Harirud (enw llawn Perseg: Rudkhaneh-ye Hari Rud), sy'n llifo 1100 km o fynyddoedd canolbarth Affganistan i Dyrcmenistan, lle mae'n cael ei llyncu gan dywod anialwch Kara-Kum. Ei nyd yw tua 500 milltir.

Mae'r afon yn tarddu yng nghadwyn Koh-i Baba, sy'n rhan o'r Hindu Kush, ac mae'n dilyn cwrs cymharol syth i gyfeiriad y gorllewin am tua 280 milltir.

Yng ngorllewin Affganistan mae'r Hari Rud yn llifo fymryn i'r de o ddinas Herat. Bu'r dyffryn o amgylch Herat yn enwog yn y gorffennol am ei ffrwythlondeb a graddfa ei amaethyddiaeth. Mae'r afon yn cwrdd ag afon Jam Rud ar safle Minaret Jam, y minaret hynafol ail dalaf yn y byd, sy'n 65 m o uchder.

Ar ôl Herat, try'r afon i'r gogledd-orllewin, ac wedyn i'r gogledd, gan ffurfio rhan ogleddol y ffin ryngwladol rhwng Affganistan ac Iran. Ymhellach i'r gogledd mae'n ffurfio rhan dde-ddwyreiniol y ffin rhwng Iran a Thyrcmenistan.

Yn Nhyrcmenistan ei hun fe'i hadnabyddir fel afon Tejen neu Tedzhen, ac mae'n llifo'n agos i ddinas Tedzhen. Mae'n ymgolli yng ngwerddon Tedzhen yn anialwch Kara-Kum.

Yn Lladin, roedd yn cael ei hadnabod fel afon Arius.

Y Hari Rud yn llifo heibio i finaret Jam yn Affganistan
Pont ar y Hari Rud ger Herat