Afon Doubs
Jump to navigation
Jump to search
Afon 430 km o hyd yn nwyrain Ffrainc a gorllewin y Swistir, sy'n un o ledneintiau Afon Saône, yw Afon Doubs. Mae'n tarddu ger Mouthe yn ngorllewin mynyddoedd y Jura. Llifa i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i ddechrau gan ffurfio'r ffin rhwng y Ffrainc a'r Swistir am 40 km. Ger Montbéliard mae'n troi i gyfeiriad y de-orllewin ac yn parhau felly nes iddi lifo i Afon Saône yn Verdun-sur-le-Doubs, tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o Chalon-sur-Saône.
Mae Afon Doubs yn llifo trwy'r départements a chantonau canlynol:
- Doubs (Ffrainc): Pontarlier.
- Canton Neuchâtel (Y Swistir).
- Canton Jura (Y Swistir): Saint-Ursanne.
- Doubs (Ffrainc): Montbéliard, Besançon.
- Jura (Ffrainc): Dole.
- Saône-et-Loire (Ffrainc): Verdun-sur-le-Doubs.
Ceir sawl llyn ar gwrs yr afon:
- Lac des Brenets (uchder 750 m)
- Lac de Moron (uchder 716 m)
- Lac de Biaufond (uchder 610 m)