Afon Connecticut

Oddi ar Wicipedia
Afon Connecticut
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConnecticut, Massachusetts, Vermont, New Hampshire Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd6,602.8 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.2375°N 71.2°W, 41.2722°N 72.3331°W Edit this on Wikidata
AberSwnt Long Island Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Chicopee, Afon White, Afon Millers, Afon Farmington, Afon Ottauquechee, Afon Westfield, Afon Ammonoosuc, Afon Ashuelot, Afon Black, Afon Deerfield, Afon Falls, Rivière Hall, Afon Passumpsic, Afon Waits, Afon West, Afon Manhan, Afon Nulhegan, Afon Upper Ammonoosuc, Afon Mohawk Edit this on Wikidata
Dalgylch29,137 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd660 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad521 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion
Yr afon ger Northampton, Massachusetts
Golygfa tuag at ogledd yr afon ar y goror rhwng Erving a Gill yng ngorllewin Massachusetts

Afon fwyaf a hiraf Lloegr Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Afon Connecticut. Mae'n llifo i'r de o Lynnoedd Connecticut yn New Hampshire ac yn dynodi'r ffin rhwng New Hampshire a Vermont. Mae'r afon yna'n llifo trwy Pioneer Valley yng ngorllewin Massachusetts ac heibio Springfield, y ddinas fwyaf poblog ar lan yr afon. Chwe km i'r de o Springfield, mae'r afon yn cwrdd â thalaith Connecticut gyda'i haber yn Old Saybrook ac Old Lyme gan lifo i Long Island Sound.

Mae 16 argae ar Afon Connecticut, a dros mil ohonynt ar ei lednentydd.[1]

Crewyd Gwarchodfa Genedlaethol Pysgod a Bywyd Gwyllt Silvio O Conte – gyda maint o 36,000 o aceri - ym 1997 i warchod dalgylch cyfan yr afon. [2]

Mae’r enw ‘Connecticut’ yn tarddu o’r gair Pequot ‘quinetucket’, sy’n golygu ‘afon lanwol hir’ [3]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]