Afon Cletwr (Gogledd Ceredigion)

Oddi ar Wicipedia

Gweler hefyd: Afon Cletwr (De Ceredigion)

Afon Cletwr ger ei haber

Afon yng Ngogledd Ceredigion sy'n llifo i mewn i Afon Dyfi yw Afon Cletwr (ffurf hanesyddol: Clettwr).[1] Cyfeiria enw Cletwr - 'Caled-ddŵr' yn wreiddiol - at rediad cyflym a gwyllt yr afon.[2]

Llifa Afon Cletwr trwy warchodfa natur Coed Cwm Cletwr a phentref Tre'r-ddôl, ble enwyd siop gymunedol ar ei hôl.[3]

Ceir nifer fawr o garneddau o amgylch rhannau uchaf Afon Cletwr.[4]

Cafodd rhan isa'r afon ei chamlesu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cymraeg Proffesiynol: Uned 1 - Orgraff – Confensiynau Sillafu" (PDF). Adnoddau Bont. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-12-27. Cyrchwyd 10 Ionawr 2022.
  2. "Caled". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 10 Ionawr 2022.
  3. "Cletwr". Cletwr. Cyrchwyd 10 Ionawr 2022.
  4. "Mynwent carneddau Moel y Llyn". Coflein. Cyrchwyd 10 Ionawr 2022.
  5. "Argloddiau Afon Cletwr". Coflein. Cyrchwyd 8 Chwefror 2022.