Adran 28
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | section |
---|---|
Rhan o | Local Government Act 1988 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Newid dadleuol i Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 oedd Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. Deddfwyd ar 24 Mai 1988. Diddymwyd yn yr Alban ar 21 Mehefin 2000 ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig ar 18 Tachwedd 2003 yn unol ag adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.[1] Roedd y newid yn datgan na fyddai awdurdod lleol yn hybu gwrywgydiaeth yn fwriadol, nac yn cyhoeddi deunydd gyda'r bwriad o hybu gwrywgydiaeth, na hybu derbyniadwyaeth o wrywgydiaeth fel perthynas teuluol ffug mewn unrhyw ysgol neu sefydliad lle darperir unrhyw fath o addysg.[2]