Adeilad Liver, Lerpwl

Oddi ar Wicipedia
Adeilad Liver
Mathadeilad swyddfa Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlRoyal Liver Assurance Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1911 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Lerpwl Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4058°N 2.9958°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ3388090329 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Nouveau Edit this on Wikidata
PerchnogaethCorestate Capital Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cost800,000 punt sterling Edit this on Wikidata
Manylion

Mae’r Adeilad Liver yn adeilad ar lan Afon Merswy ynghanol Lerpwl, ac yn enwog fel un o ‘Three Graces’ y ddinas gyda Adeilad Porthladd Lerpwl ac Adeilad Cunard. Mae’r adeilad 322 troedfedd o daldra. Ar un adeg roedd yr adeilad yr un talaf yn Ewrop. Mae’r adeilad yn rhestredig (Gradd I) ac mae 15 o loriau.[1] Mae gan yr adeilad 2 dŵr, gyda chlociau, gwnaethpwyd gan Gent a Chwmni o Gaerlŷr.[2] Mae tryfesur y clociau 25 troedfedd, yn fwy na Big Ben yn Llundain[3] Ychwanegwyd clychau elegtronig ym 1953 ar gof aelodau’r Gymdeithas sy wedi marw yn ystod y 2 ryfel byd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd gan y gymdeithas Gyfeillgar Royal Liver dros 6,000 o weithwyr ym 1907, ac roedd angen swyddfeydd newydd. Cynlluniwyd yr adeilad gan Walter Aubrey Thomas, a dechreuodd gwaith adeiladu ar 11eg Mai 1908. Agorwyd yr adeilad ar 19eg Gorffennaf 1911.[4] Roedd yr adeilad un o adeiladau cyntaf y byd gyda choncrid wedi atgyfnerthu.[5]

Ar ben y 2 dwr saif yr adar Liver, cynlluniwyd gan Carl Bernard Bartels a gyda’s enwau Bella a Bertie.[6] Efallai bod Bella yn cyfeirio at [[Isabella o Angoulême, gwraig Brenin John, a Bertie at Brenin Edward VII, brenin pan adeiladwyd Adeilad Liver. Mae damcaniad bod un yn gwarchod pobl y ddinas a’r llall yn edrych at forwyr yn cyrraedd y porthladd.[7]

Mae’r adar yn 18 troedfedd o uchder. 10 troedfedd o hyd, a’u esgyll 12 o hyd, gwnaethpwyd o gopor.

Roedd yr adeilad yn bencadlys i’r cwmni Royal Liver hyd at ddod yn rhan o grwp Royal London yn 2011. Gwerthwyd yr adeilad am 48 miliwn o bunnoedd ym mis Chwefror 2017 i gwmni Corestate Capital o Luxembourg a Farhad Moshiri, cyfrandalwr i CPD Everton. Y bwriad yw bod swyddfeydd y clwb yn symud i’r adeilad, sy’n cyfagos i safle newydd eu stadiwm newydd.[8]

Ers 2019, mae’r cyhoedd wedi cael cyfle o ymweld â thwr gorllewinol yr adeilad.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan rlb360.com
  2. "Taflen ganmlwyddiant yr adeilad, archifiwyd 24 Medi 2015" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2021-07-10.
  3. 29 Ionawr 2008 Gwefan mersey-gateway
  4. Rapid Growth 1886-1913: cyhoeddwr Grwp Royal Liver
  5. Gwefan rlb360.com
  6. Gwefan y Liverpool Echo 25 Medi 2016
  7. Gwefan theguideliverpool.com, 8 Gorffennaf 2018
  8. Gwefan Y Liverpool Echo, 8 Chwefror 2017
  9. Gwefan Royal Liver Building 360

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]