Neidio i'r cynnwys

Acton Scott

Oddi ar Wicipedia
Acton Scott
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Amwythig
Poblogaeth108 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.5°N 2.8°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04011200, E04008479 Edit this on Wikidata
Cod OSSO454895 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Acton Scott.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Rhestrir y pentref fel Actune yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[2]

Mae'n fwyaf adnabyddus am y Fferm Weithredol Acton Scott, sef 30 erw (12 hectar), amgueddfa fyw Fictorianaidd. Gall ymwelwyr â'r fferm gymryd rhan mewn amrywiol weithdai a chyrsiau ar weithgareddau megis troi menyn, godro a gyrru da byw. Mae llawer o sgiliau yn cael eu dangos megis defnyddio turn polyn, a gwneud olwynion neu brics.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato