Abihail

Oddi ar Wicipedia

Mae Abihail yn enw ar bedair o gymeriadau yn yr Hen Destament dwy ferch a dau ddyn.[1] Ystyr yr enw yw tad goleuni neu dad cadernid.[2]

  • Abihail (b). Gwraig Abisur a mam Aban, a Molid.[3]
  • Abihail (g) o Gilead yn Basan. Pennaeth llwyth Gad. Gwnaed cyfrifiad o'i ddisgynyddion yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel. 1 Cronicl 5:14 [4]
  • Abihail (b). Merch i Eliab, brawd Dafydd. Roedd hi'n briod â Jerimoth, mab Dafydd. Roedd Dafydd ac Abihail yn rhieni Mahalath yr hon a phriododd Rehoboam.[5]
  • Abihail (g) Tad i'r Frenhines Esther ac ewythr Mordecai y gŵr a magodd Esther [6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. Jones, John, (Mathetes) (1864); Geiriadur Beiblaidd a Duwinyddol, Abihail tud 22 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  2. Charles, Thomas, 1755-1814, Geiriadur Ysgrythurol (argraffiad Utica 1863) tud 23 Abihail adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  3. 1 Cronicl 2:29 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  4. 1 Cronicl 5:14 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  5. 2 Cronicl 11:18 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  6. Esther 2:15 adalwyd 31 Gorffennaf 2020
  7. Esther 9:29 adalwyd 31 Gorffennaf 2020

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Rhestr o fenywod y Beibl