Abergele, Amhara
Math | ardal yn Ethiopia |
---|---|
Poblogaeth | 46,510 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Parth Debubawi |
Gwlad | Ethiopia |
Arwynebedd | 1,766.65 km² |
Cyfesurynnau | 13.0902°N 38.9575°E |
Ardal (woreda) Ethiopia yn Rhanbarth Amhara yw Abergele (Amhareg: አበርገሌ). Mae'n rhan o Gylch Wag Hemra ac yn rhannu ffiniau gyda Zikuala i'r de, Sehala i'r de orllewin, Cylch Semien (Gogledd) Gondar i'r gogledd orllewin, Rhanbarth Tigray i'r gogledd a dwyrain, Soqota i'r de dwyrain. Cafodd Abergele ei gwahanu oddi wrth ardal weinyddol Soqota.
Demograffeg
Yn ôl cyfrifiad cenedlaethol 2007 a gynhaliwyd gan Asiantaeth Ystadegau Canolog Ethiopia, poblogaeth Abergele fel woreda yw 43,191. O'r cyfanswm hwn mae 21,976 yn ddynion ac mae 21,215 yn fenywod. Does neb ohonynt yn drigolion trefol. Roedd mwyafrif o'r trigolion yn dilyn Cristnogaeth Uniongred Ethiopia, gyda 99.93% o'r poblogaeth yn nodi hynny fel eu crefydd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Census 2007 Tables: Amhara Region Archifwyd 2010-11-14 yn y Peiriant Wayback., Tables 2.1, 2.4, 2.5, 3.1, 3.2 and 3.4.