Abberton, Essex
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Colchester |
Poblogaeth | 448 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Essex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.8337°N 0.9118°E |
Cod SYG | E04003978 |
Cod OS | TM007190 |
Cod post | CO5 |
Pentref a phlwyf sifil yn Essex, Dwyrain Lloegr, ydy Abberton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Colchester. Saif oddeutu 0.62 milltir (1.00 km) i'r dwyrain o Gronfa Ddŵr Abberton ac mae 4.2 milltir (6.8 km) i'r de o dref Colchester. Mae'r pentref yn etholaeth seneddol Gogledd Essex. Gwasanaethir y pentref gan Gyngor Plwyf Abberton a Langenhoe.
Mae swyddfa bost a thafarn yn y pentref.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 424.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cofnodir Abberton yn Llyfr Dydd y Farn (1086-7) fel Edburghetuna,[3] ac fel Edburgetuna yng Nghantref Winstree, pan oedd yn rhan o diroedd Eustace yn Essex, a deilwyd gan Ralph de Marcy ac a deilwyd ymhellach gan Ranulf Peverel mewn demen; fe'i deilwyd gan Siward, dyn rhydd, fel maenor, yn amser y Brenin Edward cyn y goncwest Normanaidd yn 1066.
Eglwys
[golygu | golygu cod]Eglwys blwyf Abberton yw Eglwys St Andrew. Fe'i lleolir ar ddiwedd Rectory Lane tua thri chan llath o Gronfa Ddŵr Abberton. Mae'r eglwys yn Adeilad bach o garreg a brics; mae'n cynnwys cangell, corff, porth deheuol a thŵr gorllewinol o frics sy'n cynnwys un gloch: adferwyd yr eglwys, ym 1884, ac eto ym 1917-18. Mae cofrestri'r eglwys yn dyddio o tua'r flwyddyn 1559.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 7 Gorffennaf 2021
- ↑ City Population; adalwyd 7 Gorffennaf 2021
- ↑ Abberton yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
- ↑ History of Abberton Archifwyd 2020-08-06 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2 Medi 2018]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Tafarn y Lion
-
Eglwys St Andrew
-
Cronfa ddŵr Abberton