Abbas ibn al-Ahnaf

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Abbas Ibn Al-Ahnaf)
Abbas ibn al-Ahnaf
Ganwydc. 750 Edit this on Wikidata
Basra Edit this on Wikidata
Bu farwc. 808 Edit this on Wikidata
Baghdad Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAbassiaid Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Arddullghazal Edit this on Wikidata

Bardd Arabeg canoloesol oedd Abba ibn al-Ahnaf (750-809). Roedd Al-Ahnaf yn un o'r cynharaf o'r beirdd Abbasid. Roedd yn frodor o Faghdad a gysylltir â'r Califf Harun al-Rashid. Daeth yn ewnog am ei gerddi serch synhwyrus ond eironig, nifer ohonyn' nhw ar ffurf y qit'a, ffurf delesgopig, gryno iawn, sy'n debyg i'r englyn Cymraeg a'r haiku Siapaneg.[1]

Dyma enghraifft o un o'i gerddi byr mewn cyfieithiad:

Pan gerdda hi â'i llawforwynion ifainc
Lleuad yn siglo rhwng llusernau ydyw.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Birds Through a Ceiling of Alabaster: Three Abbasid poets, cyf. G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (Llundain: Penguin, 1975)
  2. Birds Through a Ceiling of Alabaster: Three Abbasid poets, cyf. G.B.H. Wightman ac A.Y. al-Udhari (Llundain: Penguin, 1975) (Cyfieithiad wici.)
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.