(486958) 2014 MU69

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
2014 MU69 mewn lliw (cymerwyd gan New Horizons ar 1 Ionawr 2018)

Gwrthrych traws-Neifionaidd yw (486958) 2014 MU69, sydd a'r llysenw Ultima Thule, wedi ei leoli yng wregys Kuiper. Mae'n gorff deuaidd gyffwrdd (dau wrthrych ar wahan wedi closio at ei gilydd yn gymharol araf), gyda diamedr wedi ei amcangyfrif tua 31 wrth 19 cilometr (20 wrth 10 milltir). Mae'r gwrthrych yn cynnwys dau gorff lle mae'r un mwyaf ('Ultima') yn dair gwaith cyfaint y lleiaf ('Thule'). Gyda cyfnod cylchdroadol o 298 blwyddyn a gogwydd ac echreiddiad isel, mae'n cael ei ddosbarthu fel gwrthrych gwregys Kuiper clasurol a tybir nad yw wedi profi unrhyw aflonyddiad sylweddol a fod ganddo nifer cymhedrol o geudyllau.

Darganfuwyd 2014 MU69 ar 26 Mehefin 2014 gan seryddwyr yn defnyddio Telesgop Gofod Hubble wrth archwilio'r gwregys Kuiper am wrthrych i'w dargedu gan daith New Horizons fel rhan o'i daith estynedig ar ôl ymweld a Phlwton.[1] Cafodd ei ddewis yn hytrach na'r targedau 2014 OS393 a 2014 PN70 i ddod yn darged sylfaenol y daith. Mae'r llysenw "Ultima Thule" yn drosiad Lladin am le wedi'i leoli y tu hwnt i ffiniau y byd hysbys, a fe'i ddewiswyd fel rhan o gystadleuaeth gyhoeddus yn 2018. Bydd tîm New Horizons yn cyflwyno enw priodol i'r Undeb Seryddol Rhyngwladol wedi casglu yr holl wybodaeth a drosglwyddir yn ystod 2019, pan fydd y natur y gwrthrych yn fwy hysbys. Dyma'r gwrthrych pellaf yng Nghysawd yr haul sydd wedi ei ymweld gan long ofod.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

2014 MU69 ("Ultima Thule") ar 1 Ionawr 2019[2]

Llun cyfansawdd o ddelweddau cydraniad isel lliw a cydraniad uwch du a gwyn o 2014 MU69.
30 munud cyn dynesiad agosaf – 28,000 km (17,000 mi) i ffwrdd.
Stereosgop siglo (gif) i ddangos topograffi arwyneb, ar gydraniad o 300 a 140 metr i bob picsel, yn y drefn honno
Delwedd wedi feinhau a'r ddelwedd wreiddiol o Ultima Thule.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]