486958 Arrokoth

Oddi ar Wicipedia
Llun lliw cyfansawdd o Arrokoth (2014 MU69)

Gwrthrych traws-Neifionaidd yw Arrokoth sydd wedi ei leoli yng wregys Kuiper. Dynodiad dros dro y gwrthrych oedd 2014 MU69 ac ei lysenw gwreiddiol oedd Ultima Thule. Mae'n gorff deuaidd gyffwrdd (dau wrthrych ar wahan wedi closio at ei gilydd yn gymharol araf), sydd yn 35 cilometr o hyd (22 milltir). Mae'r gwrthrych yn cynnwys dau gorff lle mae'r un mwyaf ('Ultima') yn dair gwaith cyfaint y lleiaf ('Thule'). Gyda cyfnod cylchdroadol o 298 blwyddyn a gogwydd ac echreiddiad isel, mae'n cael ei ddosbarthu fel gwrthrych gwregys Kuiper clasurol. Yn 2019 hwn oedd o gwrthrych pellaf a'r mwyaf cyntefig i gael ei ymweld gan chwiledydd.

Darganfuwyd Arrokoth ar 26 Mehefin 2014 gan seryddwyr yn defnyddio Telesgop Gofod Hubble wrth archwilio'r gwregys Kuiper am wrthrych i'w dargedu gan daith New Horizons fel rhan o'i daith estynedig ar ôl ymweld a Phlwton.[1] Cafodd ei ddewis yn hytrach na'r targedau 2014 OS393 a 2014 PN70 i ddod yn darged sylfaenol y daith. Yn wreiddiol fe'i gelwid gyda'r llysenw "Ultima Thule" sydd yn drosiad Lladin am le wedi'i leoli y tu hwnt i ffiniau y byd hysbys, a dewiswyd yr enw fel rhan o gystadleuaeth gyhoeddus yn 2018. Gwnaeth tîm New Horizons gyflwyno enw priodol i'r Undeb Seryddol Rhyngwladol wedi casglu yr holl wybodaeth a drosglwyddir yn ystod 2019, pan roedd natur y gwrthrych yn fwy hysbys. Dyma'r gwrthrych pellaf yng Nghysawd yr haul sydd wedi ei ymweld gan long ofod.

Cyhoeddwyd ar 12 Tachwedd 2019 mai Arrokoth fyddai'r enw swyddogol. Cydnabyddwyd yr enw gan yr awdurdod rhyngwladol sy'n gyfrifol am enwi gwrthrychau Gwregys Kuiper, sef yr Undeb Seryddol Rhyngwladol a Canolfan Planedau Bychain. Mae'r enw yn golygu "awyr" yn yr iaith Powhatan, iaith farw a siaradwyd gan y llwyth Powhatan, poblogaeth o Americanwyr Brodorol oedd yn byw ar y tir sydd yn rhan o ddwyrain Virginia heddiw. [2]

Galeri[golygu | golygu cod]

Arrokoth (2014 MU69) ar 1 Ionawr 2019[3]

Llun cyfansawdd o ddelweddau cydraniad isel lliw a cydraniad uwch du a gwyn o Arrokoth.
30 munud cyn dynesiad agosaf – 28,000 km (17,000 mi) i ffwrdd.
Stereosgop siglo (gif) i ddangos topograffi arwyneb, ar gydraniad o 300 a 140 metr i bob picsel, yn y drefn honno
Model cyfrifiadur o siap Arrokoth. Mae'r siâp "dyn eira" ar y top, a'r model newydd "crempog a cneuen" ar y gwaelod - dyma'r model sydd agosaf i'r siap cywir gyda'r wybodaeth sydd ar gael erbyn Chwefror 2019.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Hubble Survey Finds Two Kuiper Belt Objects to Support New Horizons Mission". HubbleSite news release. Space Telescope Science Institute. 1 Gorffennaf 2014.
  2. "New Horizons Kuiper Belt Flyby Object Officially Named 'Arrokoth'". pluto.jhuapl.edu. Applied Physics Laboratory. 12 November 2019. Cyrchwyd 12 November 2019.
  3. Chang, Kenneth (2 Ionawr 2019). "NASA's New Horizons Mission Releases Snowman-like Picture of Ultima Thule". The New York Times. Cyrchwyd 2 Ionawr 2019.