Swansea Love Story: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen Ffilm | enw = Swansea Love Story| delwedd = | pennawd = | serennu= | cyfarwyddwr = Andy Capper<br>Leo Leigh | cynhyrchydd = Andy Capper<...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:32, 21 Mawrth 2010

Swansea Love Story
Cyfarwyddwr Andy Capper
Leo Leigh
Cynhyrchydd Andy Capper
Leo Leigh
Dylunio
Cwmni cynhyrchu VBC.tv
Dyddiad rhyddhau 14 Chwefror, 2010
Gwlad Cymru
Iaith Saesneg

Ffilm ddogfen o 2010 yw Swansea Love Story. Lleolwyd y ffilm yn Abertawe a defnyddiwyd strydoedd cefn y ddinas yn bennaf yn gefnlen i'r ffilm. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Andy Capper a Leo Leigh a chafodd ei noson agoriadol ynng nghlwb nos Sin City ar y 13 Chwefror, 2010.[1] Cynhyrchwyd y ffilm gan VBS.TV, adain ddarlledu Vice Magazine a chafodd ei ffilmio dros gyfnod o chwe mis.[2]

Mae'r ffilm yn dilyn hanesion saith o bobl ifanc go iawn sy'n gaeth i heroin. Ceir golygfeydd cignoeth o ddefnydd o gyffuriau a realiti bywyd yn gaeth i gyffuriau. Edrycha'r ffilm ar effaith diweithdra, teuluoedd wedi'u chwalu a chariad ar fywydau pobl.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Nightclub premiere for drug film Swansea Love Story. BBC News. 14-02-2010. Adalwyd ar 21-03-2010
  2. Vice Documentary Swansea Love Story Reviewed The Quietus. 05-01-2010. Adalwyd ar 21-03-2010