Estyn

Oddi ar Wicipedia

Asiantaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion a hyfforddiant ysgol yng Nghymru yw Estyn, a adnabyddir hefyd fel Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n gorff annibynnol.

Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu ysgolion ac adrodd ar gyrhaeddiadau ysgolion ar bob lefel o addysg ofynnol, yn cynnwys cylchoedd meithrin, rhaglenni a gyllidir gan y llywodraeth, a cholegau addysg uwch, yn cynnwys addysg i oedolion. Lleolir pencadlys Estyn yng Nghaerdydd. Daeth Bill Maxwell yn brif arolygydd yn 2008, bydd yn ymddeol ym mis Chwefror 2011.

Y corff sy'n cyfateb i Estyn yn yr Alban yw His Majesty's Inspectorate of Education (HMIE), ac yn Lloegr, Ofsted.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.