Yr Angen

Oddi ar Wicipedia

Band roc Cymraeg o ardal Abertawe ydy Yr Angen. Cystadleuodd y band yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau ar C2 yn 2010 gan ddod yn fuddugol gyda'r gân 'Nawr Mae Drosto'.[1] Aelodau'r band ydy Jac Davies (prif leisydd, gitar rythm), Jamie Price (gitar flaen), Gareth Jones (gitar fas) a Dai Williams (drymiau). Mynychodd holl aelodau'r band Ysgol Gyfun Gŵyr yn Nhregwyr, Abertawe.

Pan yn rhoi eu beirniadaeth ar y bandiau yn y rownd derfynol, dywedodd Ian Cottrell fod 'Nawr Mae Drosto' yn "hit radio enfawr.... hit stadiwm enfawr".[2] Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan fod y band "wedi datblygu y tu hwnt i bob disgwyl" gan ychwanegu fod y "band yn mynd i ddatblygu mwy na) i'r hyn y maen nhw'n gallu ei ddychmygu nawr."[2] Ychwanegodd Bethan Elfyn at hyn gan nodi eu bod "nhw'n fand cyffrous ar gyfer y sîn a fyddwn i'n barod iawn i roi grŵp fel yma mewn sesiwn gan eu bod yn swnio fel bod ganddyn nhw ganeuon a bod popeth yn barod i fynd."[2]

Cyrhaeddodd y band rif 10 yn siart C2 ar y 5ed o Orffennaf 2010. Hefyd perfformiodd y band ar raglen olaf y rhaglen teledu 'Mosgito' ar y 15 Gorffennaf yn perfformio eu cân 'Gad Dy Wallt Lawr'. Yn ystod haf 2010 chwaraeodd y band yn Yr Wythnos Fach i BBC Radio 1[3] , Maes B, Gŵyl Bro Dinefwr a Sioe Frenhinol Cymru. Yn ogystal roedd y band hefyd wedi recordio sesiwn ar gyfer C2, ac wedi perfformio ar Maes B 2011 gydag Elin Fflur ac Al Lewis Band. Chwaraeodd y band sesiwn acwstig i raglen Dodd Com ar C2 ar 21 Ebrill yn perfformio tair cân gan gynnwys trac newydd a oedd yn cael ei chwarae'n fyw am y tro cyntaf. Cafodd y trac 'Boi Bach Skint' o sesiwn C2 y band cael ei defnyddio ar sawl hysbysebiad ar BBC 1 a BBC 2 yn hyrwyddo digwyddiadau ar draws Cymru dros Haf 2011. Rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf Gorffen Nos ar 9 Rhagfyr 2011.

Discograffiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brwydr Y Bandiau 2010 - Yr Angen. Gwefan C2 BBC Radio Cymru. Adalwyd ar 27-04-2010
  2. 2.0 2.1 2.2 Rhaglen Magi Dodd. Radio Cymru; 21 Ebrill 2010
  3. Gwefan Yr Wythnos Fach BBC Radio 1 Adalwyd ar 17-07-2010