Føroyar
| Ynysoedd Føroyar | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
||||||
| Anthem: Tú alfagra land mítt Ti, fy mhrydferth dir! |
||||||
|
Lleoliad yng ngogledd Ewrop.
|
||||||
| Prifddinas (and Y ddinas fwyaf) |
Tórshavn 62°00′N 06°47′W / 62°N 6.783°W |
|||||
| Ieithoedd swyddogol | Nodyn:Dotlist | |||||
| Grwpiau ethnig |
|
|||||
| Demonym | Faroese | |||||
| Llywodraeth | Dermocratiaeth drwy Lywodraeth dan frenhiniaeth gyfansoddiadol | |||||
| - | Brenhines | Margrethe II | ||||
| - | High Commissioner | Dan M. Knudsen | ||||
| - | Prifweinidog | Kaj Leo Johannesen | ||||
| Cyfreithiol | Løgting | |||||
| Autonomy o fewn Brenhiniaeth Denmarc | ||||||
| - | Treaty of Kiel | 14 Ionawr 1814 | ||||
| - | Hunan Lywodraeth | 1 Ebrilll 1948 | ||||
| Arwynebedd | ||||||
| - | Cyf | 1,399 km2 (180th) 540 mi sgwâr |
||||
| - | Dŵr (%) | 0.5 | ||||
| Poblogaeth | ||||||
| - | Gorffennaf 2011 estimate | 49,267[1] (206fed) | ||||
| - | Dwysedd | 35/km2 91/mi sgwâr |
||||
| GDP (PPP) | 2008 estimate | |||||
| - | Cyfanswm | $1.642 biliwn | ||||
| - | Y pen | $33,700 | ||||
| GDP (nominal) | 2008 estimate | |||||
| - | Cyfanswm | $2.45 biliwn | ||||
| - | Y pen | $50,300 | ||||
| HDI (Human Development Index) (2011) | 0.895 | |||||
| Arian | Faroese króna[d] (DKK) |
|||||
| Rhanbarth amser | WET Amser +0) | |||||
| - | Haf (DST) | WEST (UTC+1) | ||||
| Lefel uchaf Gwlad (ar y we) | .fo | |||||
| Côd deialu | +298 | |||||
Grŵp o ynysoedd yng ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a'r Cefnfor Iwerydd yw'r Føroyar, Ynysoedd Faroe neu Ynysoedd Ffaröe (Ffaröeg Føroyar, Daneg Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy.
Maen' nhw'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland. Maen' nhw'n dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948. Maen' nhw wedi cymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Cynnwys |
Yr Ynysoedd [golygu]
Tórshavn yw'r brifddinas, a chanddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik, â phoblogaeth o ryw 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol.
Preswylir 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwar (540 mi.sg), a nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, a nid oes ffin tirol gyda unrhyw wlad arall. Yr unig ynys nad oes ganddi drigolion yw Lítla Dímun.
Hanes [golygu]
Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y llychlynwyr; mae hanes y trefedigaetho i'w chael yn y Færeyinga Saga.
Diwylliant [golygu]
Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant lychlynnol scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota ymgynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys ydyw'r Ffaroeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg.
Gweler hefyd [golygu]
Cysylltiadau allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ CIA - The World Factbook; adalwyd 13 Gorffennaf 2011.