Ynysoedd Bonin

Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Bonin
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOgasawara Sadayori, desert island, Matthijs Hendrikszoon Quast Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOgasawara Archipelago Edit this on Wikidata
SirOgasawara Village, Ogasawara Subprefecture, Tokyo Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.9981°N 142.2181°E Edit this on Wikidata
Map

Ynysfor yng ngorllewin y Cefnfor Tawel sydd yn perthyn i Japan yw Ynysoedd Bonin a leolir 600 milltir i dde-ddwyrain arfordir Japan. Mae'n cynnwys rhyw 30 o ynysoedd folcanig a chanddynt gyfanswm arwynebedd o 28 milltir sgwâr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg i forwyr Ewropeaidd canfod yr ynysoedd yng nghanol yr 16g, cyn i'r Japaneaid eu fforio yn niwedd yr 17g. Nid oedd poblogaeth yno bryd hynny. Hawliwyd yr ynysoedd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig gan y Capten Frederick Beechey, HMS Blossom, ar 9 Mehefin 1827. Nathaniel Savory o Massachusetts oedd y cyntaf i wladychu'r ynysoedd, a hynny gyda chefnogaeth Richard Charlton, conswl y Deyrnas Unedig yn Ynysoedd Sandwich (bellach Hawaii). Cyrhaeddodd Savory yr ynysoedd ar 26 Mehefin 1830 gyda rhyw 30 o gyd-deithwyr, gan gynnwys 25 o frodorion Ynysoedd Hawaii. Cynyddodd y boblogaeth wedi i'r llong forfila Howard ymweld yno yn 1846. Yn ôl y sôn, bu un o'r setlwyr a gyrhaeddodd ar y llong honno, hen wraig o'r enw Hypa, farw yn 112 oed yn 1897.[1]

Yn 1853, pan oedd Llynges yr Unol Daleithiau ar fin gorfodi Japan i agor ei phorthladdoedd i longau tramor, meddai'r Comodôr Matthew C. Perry nad oedd gan y Prydeinwyr hawl i Ynysoedd Bonin, a bod y gwladychwyr yno wedi gwrthod sofraniaeth Coron Lloegr drostynt. Gorchmynnodd Perry i'r Comander Kelly, USS Plymouth, gipio ynysoedd deheuol Bonin. Ar 30 Hydref 1853, meddiannwyd rhai o'r ynysoedd gan forwyr Americanaidd.[1]

Yn 1861, methiant a fu ymdrech gan y Japaneaid i sefydlu gwladfa yn yr ynysoedd. Er gwaethaf, danfonwyd alldaith arall i hawlio'r holl ynysfor gan Japan ar 24 Tachwedd 1875. Ni chafwyd gwrthsafiad gan ddiplomyddion Prydeinig, siŵr o fod oherwydd roedd cysylltiadau masnachol â Japan yn amcan pwysicach na chadw rheolaeth dros yr ynysoedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Kenneth J. Panton, Historical Dictionary of the British Empire (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2015), t. 77.