Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhybudd ASBO yn Llundain

Ymddygiad sydd yn anystyriol tuag at eraill, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, yw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall niweidio cymdeithas. Y gwrthwyneb i hyn yw ymddygiad cymdeithasol, sef ymddygiad sydd yn elwa neu'n gwella cymdeithas. Mewn amryw o wledydd, defnyddir cyfreithiau er mwyn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym maes seiciatreg, ystyrir ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn rhan o anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol.

Cyfreithiau'r DU[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Diffinia Deddf Troseddu ac Anrhefn 1998 ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddwyn mewn ffordd sydd wedi "achosi neu'n debygol o achosi aflonyddwch, ofn neu achosi gofid i un neu fwy nag un person na sydd o'r un cartref" a'r cyflawnwr. Mae nifer o drafodaethau wedi bod ynglŷn â natur annelwig y diffiniad hwn.[1] Cyflwynodd y ddeddf y Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (a elwir yn "ASBO" yn Saesneg, sy'n dalfyriad o "Antisocial Behaviour Order"),gorchymyn sifil sy'n gallu arwain at ddedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar os torrir yr amodau. Sancsiynau sifil ydy Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, y medrir eu defnyddio am gyfnod o hyd at ddwy flynedd. Fe'u hystyrir yn weithrediadau troseddol am resymau cyllidol oherwydd y cyfyngiadau a roddant ar ryddid yr unigolyn. Nid yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn rhoi cofnod troseddol i'r troseddwr, ond gosodant amodau sy'n atal y troseddwr rhag cyflawni gweithredoedd gwrthgymdeithasol penodol neu eu hatal rhag mynd i fannau penodol. Fodd bynnag, mae torri amodau'r Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn drosedd.

Yn 2003, newidiodd y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Ddeddf wreiddiol gan gyflwyno mwy o sancsiynau fel y Gorchmynion Hwyrgloch a Gwasgariad i Blant.

Mae'r rhestr isod yn nodi pa fath o ymddygiad mae heddlu yn y DU yn ystyried yn wrthgymdeithasol:[2]

  • Camddefnydd o sylweddau fel arogli glud
  • Yfed alcohol ar y stryd
  • Problemau'n ymwneud ag anifeiliaid e.e. eu ffrwyno mewn mannau cyhoeddus
  • Begera
  • Gweithgarwch sy'n ymwneud â phuteindra megis prowlan pafin neu loetran
  • Cerbydau wedi'u gadael, boed wedi'u dwyn neu beidio
  • Niwsans cerbydau fel refio injans ceir, rasio, sbinio olwynion a seinio'r corn.
  • Sŵn yn dod o fusnes neu ddiwydiant
  • Sŵn yn dod o larymau
  • Sŵn yn dod o dafarnau a chlybiau
  • Difrod amgylcheddol fel graffiti a sbwriel
  • Defnydd amhriodol o dân gwyllt
  • Defnydd amhriodol o fan cyhoeddus megis anghydfodau rhwng cymdogion, ymddygiad stwrllyd ac anystyriol
  • Ymddygiad meddw cyffredinol (sydd yn stwrllyd ac anystyriol)
  • Galwadau maleisus i'r gwasanaethau brys
  • Tafarnau a chlybiau'n gwerthu alcohol tu hwnt i'w horiau
  • Cyfathrebu maleisus
  • Achosion o gasineb lle ceir difrïo ar sail hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oed neu anabledd
  • Digwyddiadau arf tân megis defnydd o arfau ffug.

Mewn arolwg a wnaed gan University College London ym mis Mai 2006, ystyriai'r bobl a gymrodd ran mai'r DU oedd y wlad waethaf yn Ewrop am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda 76% yn credu fod gan Brydain "broblem fawr neu ganolig".[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Andrew Millie (2009). Anti-Social Behaviour. ISBN 0-335-22916-6
  2. Safer Lancashire website (accessed 20 Dec 06)
  3. Matt Weaver and agencies (2006). UK 'has worst behaviour problem in Europe'. guardian.co.uk, 9 May 2006