Y Wombles
Y Wombles | |
---|---|
Ciplun o raglen deledu, gan ddangos un o'r Wombls | |
Gwefan | https://womblesofficial.com, https://thewomblesbooks.com |
Mae'r Wombles yn greaduriaid ffuglennol, blewog gyda thrwynau pigog, a grëwyd gan Elisabeth Beresford. Gwnaethant ymddangos yn gyntaf mewn cyfres o lyfrau plant o 1968 ymlaen.[1] Maent yn byw mewn tyllau tanddaearol, ble maent yn anelu i helpu'r amgylchedd drwy gasglu ac ailgylchu sbwriel mewn ffyrdd creadigol. Er bod y Wombles yn honedig yn byw ym mhob gwlad dros y byd, mae straeon Beresford yn dilyn hanes trigolion Wimbledon Common yn Llundain.
Cododd proffil y cymeriadau yn y 1970au yn sgil cyfres deledu i blant wedi ei chomisiynu gan y BBC. Roedd y gyfres yn defnyddio animeiddio stop-symudiad. Recordiwyd nifer o ganeuon ysgafn wedi eu hysbrydoli gan y cymeriadau gan y band The Wombles, sef syniad y canwr a'r cyfansoddwr Mike Batt.
Arwyddair yr Wombles oedd "Gwneud Defnydd Da o Sbwriel Drwg". Roedd y neges amgylcheddol yma yn adlewyrchu'r twf mewn ymwybyddiaeth amgylcheddol yn ystod yr 1970au.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Underground, Overground – The Wombles get wired". BBC. 17 Chwefror 1998. Cyrchwyd 14 Awst 2011.
- ↑ Childs, Martin (3 Ionawr 2011). "Elisabeth Beresford: Children's author who created the Wombles". The Independent. London. Cyrchwyd 14 Awst 2011.