Wrth ewyllys Ei Fawrhydi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wrth ewyllys Ei Mawrhydi)

Term cyfreithiol a ddefnyddir yn nheyrnasoedd y Gymanwlad yw wrth ewyllys Ei Fawrhydi[1] (Saesneg: at His Majesty's pleasure; neu Ei Mawrhydi (Her Majesty's) pan bo'r teyrn yn fenyw) a ddaw o'r ffaith bod holl awdurdod cyfreithlon y llywodraeth yn tarddu o'r Goron. Mewn gwledydd lle cynrychiolir y teyrn gan Lywodraethwr Cyffredinol, gall newid y term i "wrth ewyllys y Llywodraethwr" (Saesneg: at the Governor's pleasure).

Yn Gymraeg defnyddir hefyd y term hyd y mynno Ei Fawrhydi[2][3] pan yn cyfeirio at garchariad. Caiff person a gedwir mewn carchar neu ysbyty seiciatrig am amser amhenodol ei "gadw hyd y mynno Ei Fawrhydi". Defnyddir gan amlaf ar droseddwyr ifainc yn lle carchariad am oes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 88.
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1044 [a person to be held at Her Majesty's pleasure].
  3.  Gwybodaeth i Garcharorion. Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai a Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi (2008).
Eginyn erthygl sydd uchod am y gyfraith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.