Sellafield

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Windscale)
Sellafield
Mathnuclear facility, busnes Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSeascale
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.4189°N 3.4881°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganSellafield Ltd Edit this on Wikidata
Map

Atomfa yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Sellafield, a arferid cael ei alw'n Windscale. Oherwydd cyhoeddusrwydd gwael iawn ynghylch pa mor ddiogel (neu anniogel) oedd yr atomfa, newidiwyd enw'r lle o Windscale i Sellafield yn 1981.

Hyd at 2005, British Nuclear Fuels plc (BNFL) oedd perchnogion yr atomfa hon, ond ers hynny mae ym mherchnogaeth yr Awdurdod Datgomisiynnu Niwclear. Mae yma sawl adweithydd, gan gynnwys yr atomfa masnachol cyntaf drwy'r byd, sef Calder Hall a agorwyd yn 1956. Caewyd yr atomfa ar 31 Mawrth 2003 wedi 47 mlynedd o waith.

Damwain[golygu | golygu cod]

Ar 10 Hydref 1957 gafwyd tân enfawr yn Adweithydd Un. Dihangodd 750 terabecquerel (20,000 Ci) o ymbelydredd niwclear i'r awyr a'r amgylchedd (gan gynnwys rhannau o ogledd Cymru). Roedd yr ymbelydredd yn cynnwys Iodine-131, sy'n cael ei gymryd i mewn i thyroid y corff dynol. Bu'n rhaid taflyd galwyni o laeth am rai blynyddoedd yn dilyn hyn a chyhoeddwy lefelau'r ymbelydredd yn y Times.

Organau cyn-wethwyr[golygu | golygu cod]

Cydnabodd perchnogion Sellafied (British Nuclear Group) iddynt gymeryd samplau o organau cyn-weithwyr rhwng 1962 a 1991 er mwyn eu hastudio. Dywedodd Michael Redfern QC sy'n ymchwilio i'r cyhuddiadau hyn na ofynwyd i berthnasau'r 65 gweithiwr am eu caniatad.[1] Roedd yr ymgyrchydd iaith Owain Owain ymhlith gweithwyr cynharaf yr atomfa. Dywedodd Charles Hendry AS, "I am shocked and incredulous at what appears to have happened".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]