Wilhelm Friedemann Bach
Oddi ar Wicipedia
Cyfansoddwr a cherddor Almaenig oedd Wilhelm Friedemann Bach (22 Tachwedd 1710 – 1 Gorffennaf 1784).
Fe'i ganwyd yn Weimar, yn fab cyntaf Johann Sebastian Bach a Maria Barbara Bach. Brawd y cerddorion Carl Philipp Emanuel Bach a Johann Gottfried Bernhard Bach oedd ef. Priododd Dorothea Elisabeth Georgi (1721–1791) ym 1751.