Wicipedia:Tiwtorial (Cofiwch)
|
Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau |
| Cyflwyniad | Golygu | Chwilio | Dolennau | Ffynonellau | Mewngofnodi | Sgwrs | Ymestynol | Arall |
|
Mae yna rai pethau y dylech gofio pan yn golygu Wicipedia.
Polisïau golygyddol
Testun yr erthygl
Gwyddoniadur golygadwy ydy Wicipedia, (sydd hefyd yn cynnwys rhai pynciau a fyddai'n ymddangos mewn almanac). O ganlyniad, dylai erthyglau gynnwys gwybodaeth gwyddoniadurol am bynciau "enwog". Mae'r hyn a ystyrir yn enwog neu'n nodedig yn destun trafod parhaus ar Wicipedia, ond prin iawn yw'r bobl sy'n credu y dylid cynnwys am bob person ar y ddaear, pob cwmni sy'n gwerthu unrhyw beth, neu bob stryd ym mhob dref yn y byd. Fodd bynnag, mae chwaer brosiectau ar gyfer mathau penodol o gynnwys di-wyddoniadurol.
Dylid cyfrannu unrhyw erthygl sy'n diffinio gair yn unig, fel y byddai'n ymddangos mewn geiriadur, ac na ellir ei ehangu'n gofnod mewn gwyddoniadur, i'r chwaer brosiect Wiciadur.
Dylid cyfrannu testun ffynhonnell wreiddiol, megis gweithiau llyfr sy'n eiddo cyhoeddus rydych eisiau postio er mwyn ei wneud yn haws i ddod o hyd iddo, i'n chwaer brosiect, Wicitestun. Mae Sefydliad Wicifryngau (Wikimedia Foundation) yn darparu nifer o brosiectau ar-lein rhydd eraill yn ogystal â Wicipedia, mewn llwyth o ieithoedd. Maent i gyd yn wicïau, sy'n golygu bod pawb yn cael eu hysgrifennu, eu golygu, a'u darllen. Sefydlwyd Wicifryngau yn 2003 gan Jimmy Wales, ac fe'i gweinyddir yn Fflorida. (Mwy am Wicifryngau)
| Meta-Wici Canolbwynt prosiectau'r Sefydliad: yn cynnwys gwybodaeth am y Sefydliad, ei brosiectau a'r meddalwedd MediaWici. |
Wiciadur Geiriadur o eiriau'r holl ieithoedd, wedi'u diffinio yn y Gymraeg, sydd hefyd yn cynnwys thesawrws, odliadur, atodiadau, a mwy. |
Wicilyfrau Casgliad o werslyfrau a llawlyfrau er mwyn dysgu ieithoedd, gwyddorau, celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon, a mwy. |
|||
| Comin Wicifryngau Ystorfa ffeiliau amlgyfrwng (delweddau, ffeiliau sain a chlipiau fideo) a ddefnyddir gan yr holl brosiectau. |
Wicitestun Casgliad o destunau a dogfennau Cymraeg sydd yn y parth cyhoeddus, yn cynnwys cerddi, caneuon, llyfrau, areithiau, adroddiadau, a mwy. |
Wicifywyd Cyfeiriadur rhydd o'r holl rywogaethau, sydd yn dangos dosbarthiad tacsonomig organebau byw. |
|||
| Wiciddyfynnu Casgliad Cymraeg o ddyfyniadau o bob iaith. |
Prosiectau Wicifryngau nad ydynt ar gael yn Gymraeg:
| Wikinews Newyddion rhydd eu cynnwys. |
Wikiversity Adnoddau addysg. |
Am restr o'r holl brosiectau cysylltiedig, gweler y Rhestr gyflawn o brosiectau Wikimedia.
Nid Wicipedia yw'r lle ychwaith am "ymchwil gwreiddiol" — hynny yw, damcaniaethau newydd, a.y.y.b., sydd heb eu cefnogi gan adolygiad cyfoedion. Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r hyn y dylai Wicipedia gynnwys, gweler Anaddas ar gyfer Wicipedia a Meini prawf ar gyfer cynnwys bywgraffiadau.
Yn ogystal â hyn, annogwn awduron i beidio ag ysgrifennu am eu hunain neu eu llwyddiannau personol, am fod hyn yn arwain at fuddiannau croes. Os ydych wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd, bydd rhywun arall yn ysgrifennu amdanoch yn hwyr neu'n hwyrach. Mae gan Wicipedia:Hunangofiant fwy o wybodaeth am hyn.
Safbwynt ddiduedd
Polisi golygyddol Wicipedia ydy sicrhau "arddull ddiduedd." Dywed y polisi hwn y gallwn ni dderbyn yr holl safbwyntiau arwyddocaol ar fater. Yn hytrach na datgan rhywbeth o un safbwynt yn unig, rydym yn ceisio cyflwyno'r holl safbwyntiau heb roi'n barn arnynt. Ein nod yw cyflwyno gwybodaeth, ac nid perswadio. Nid yw hyn yn golygu fod disgwyl i'n herthyglau fod 100% yn "wrthrychol," am fod pob ochr mewn unrhyw anghydfod yn credu mai eu safbwynt hwy sy'n "gywir".
Mae'n dderbyniol i ddatgan safbwyntiau mewn erthyglau, ond rhaid eu cyflwyno fel safbwynt, yn hytrach nag fel ffaith. Mae hefyd yn syniad da i briodoli'r safbwyntiau hyn, er enghraifft "Dywed cefnogwyr o'r mater fod..." neu "Cred y sylwebydd nodedig X fod..."
Efallai y byddwch yn clywed Wicipedwyr yn cyfeirio at erthygl gan ddefnyddio'r talfyriad "POV" (o'r Saesneg: "Point of View"). Bratiaith Wicipedia yw hyn am erthygl sy'n cynnwys barn neu safbwynt unigol. Byddai hysbysebu'n disgyn i'r categori hwn, fel y byddai areithiau gwleidyddol hefyd. Mewn achos llai difrifol, efallai fod problemau "POV" gan erthygl os yw'n treulio llawer mwy o amser yn trafod un safbwynt na safbwynt arall sydd yr un mor ddilys, hyd yn oed os yw'r ddwy safbwynt yn cael eu cyflwyno'n wrthrychol.
Os ydych yn bwriadu treulio amser ar erthyglau ar faterion dadleuol fel crefydd neu wleidyddiaeth, mae'n hanfodol bwysig eich bod yn darllen y dudalen polisi arddull ddiduedd cyn gynted a phosib. Byddai'n syniad da hefyd i chi ddarllen Aros yn cŵl pan mae'r golygu'n poethi. Os ydych yn bwriadu treulio'ch amser ar bynciau llai emosiynol fel mathemateg neu gemau fideo, mae dal yn syniad da i ddarllen y polisïau, ond nid yw mor angenrheidiol. Cofiwch y cyngor hyn, a darllenwch y polisi llawn os cwyd mater am arddull ddiduedd. Gweler hefyd Tiwtorial arddull ddiduedd.
Nodi ffynonellau
Ar gyfer Wicipedia mae angen i chi nodi ffynhonnell ar gyfer y wybodaeth rydych yn cyfrannu. Dylid rhestru pob ffynhonnell mewn adran a elwir "Cyfeiriadau". Os fyddai unrhyw wefan o ddefnydd i ddarllenydd erthygl, dylid eu rhestru a'u dolenni yn yr adran "Dolenni allanol", tra bod llyfrau o ddiddordeb penodol yn cael eu rhestru yn yr adran "Darllen pellach", ond dim ond os na chawsant eu defnyddio fel ffynonellau yn yr erthygl. Mae dyfyniadau yn cynorthwyo'r darllenwyr i wirio'r hyn rydych wedi ysgrifennu ac i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Hawlfreintiau
Peidiwch a chyflwyno deunydd sydd â hawlfraint arno heb ganiatad. Pan yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch ei fod wedi cael ei ysgrifennu yn eich geiriau eich hun. Cofiwch fod pob darn o wybodaeth ar y wê wedi ei hawlfreintio, oni noda'r wefan yn wahanol.
Ymddygiad
Annoga Wicipedia awyrgylch gyfeillgar ac agored. Yn naturiol, ceir adegau pan fo anghytundeb ac ambell i drafodaeth danllyd, ond disgwylir i aelodau'r gymuned ymddwyn mewn modd gwrtais.
Y peth pwysicaf i gofio yw y dylech gymryd ewyllys da yn ganiataol bod adeg pan mae'n dod i olygwyr eraill. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhywun yn gweithredu allan o faleisdra neu anghwrteisi. Os yw rhywun yn gwneud rhywbeth sy'n eich digio, gadewch neges gwrtais ar dudalen sgwrs yr erthygl briodol, gan ofyn pam. Mae'n bosib eich bod yn darganfod eich bod wedi camddeall y sefyllfa a thryw ymateb fel hyn byddwch yn osgoi codi cywilydd ar eich hun.