Welshampton
Pentref yn Swydd Amwythig, Lloegr yw Welshampton. Fe'i lleolir ger tref Ellesmere, ar y briffordd A495 tua hanner ffordd rhwng Croesoswallt a Whittington. Gyda phentrefi bychain Lyneal a Colemere, mae'n rhan o'r ardal a elwir yn 'Ardal y Llynnoedd Gogledd Swydd Amwythig' (North Shropshire Lake District). Yn 2001, roedd gan blwyf sifil Welshampton a Lyneal boblogaeth o 839.
Mae'r enw 'Welshampton' yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o Deyrnas Powys. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas Mercia ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o Gymry yn byw yma, yn agos i hen gwmwd Maelor Saesneg dros y ffin yng Nghymru (de-ddwyrain sir Wrecsam).
Anchor · Amwythig · Argoed · Betws-y-Crwyn · Brŵm · Caerwrygion · Cefn Einion · Church Stretton · Clun · Cockshutt · Craven Arms · Croesau Bach · Croesoswallt · Donnington · English Frankton · Llanfair Waterdine · Llanfarthin · Llanffynhonwen · Llanyblodwel · Llawnt · Llwydlo · Llynclys · Melverley · Morda · Nant-y-Gollen · Nantmawr · Newport · Porth-y-waen · Rhydycroesau · Selattyn · Snailbeach · Telford · Treflach · Trefonen · Uppington · Wellington · Welshampton · Welsh Frankton · Yr Eglwys Wen