Visby

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Harbwr Visby

Dinas ar ynys Gotland oddi ar arfordir dwyreiniol Sweden yw Visby. Hi yw prifddinas Talaith Gotland, ac roedd y bobologaeth yn 2005 yn 22,236

Sefydlwyd Visby yn y 10fed ganrif, ac o'r 12fed hyd y 14eg ganrif roedd yn ganolfan fasnachol o bwysigrwydd mawr. Yn 1361, cipiwyd y ddinas gan Denmarc, ond daeth yn rhan o Sweden yn yr 17eg ganrif. Dechreuodd ei masnach ddirywio wedi hynh, ac oherwydd hyn, cadwyd llawer o adeiladau o gyfnod ei hanterth. Dynodwyd Visby yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.