Veritas Language Solutions

Oddi ar Wicipedia
Veritas Language Solutions
Math
busnes
Sefydlwyd1 Mehefin 2009
PencadlysAbertawe
Gwefanhttps://www.lingua-translations.com/ Edit this on Wikidata

Mae Veritas Language Solutions Limited (yn masnachu fel ‘Veritas’) yn gwmni cyfieithu a sefydlwyd yn 2009. Mae’n gwmni cyfyngedig wedi’i gofrestru yn y DU.

Hanes a throsolwg o’r cwmni[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Veritas ar 1 Mehefin 2009 gan raddedigion cyfieithu Sharon Stephens a Rachel Bryan. Graddiodd y ddwy sylfaenydd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Abertawe yn 2009.[1] Dechreuodd y cwmni fasnachu o gartref Stephens, ond mae bellach wedi ei leoli yn natblygiad SA1 Glannau Abertawe. Penododd Veritas Gyfarwyddwr Cyllid yn 2011, ac erbyn hyn mae gan y cwmni 30 o weithwyr yn eu prif swyddfa yn y Deyrnas Unedig a 5,500 o gyfieithwyr ledled y byd.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd Veritas fel y ‘Best International Business’ yn y ‘HSBC Startup Stars awards 2010’,[2] ‘Most Promising New Business’ yn y ‘Swansea Bay Business Awards 2011’,[3] a ‘Best Welsh Enterprise’ yn y ‘Lloyds TSB Enterprise Awards 2012’[4][5] Mae Veritas wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn nifer o wobrau, gan gynnwys y ‘ShellLiveWIRE 'Hot 40' 2010’,[6] ‘Start-ups Women in Business awards 2010’, ‘NatWest Everywoman 2011’,[7] ‘Swansea Women in Business 2011’,[8] ‘South Wales Business Awards 2011’[9] a ‘Mumpreneur 2011’.[10] Yn 2010 enwyd Rachel Bryan ymysg y 100 o ferched mwyaf ysbrydoledig yn y DU ac ymunodd â ‘Modern Muse’,[11] sef menter a gynlluniwyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes benywaidd drwy arddangos menywod llwyddiannus heddiw ym mhob agwedd o fywyd busnes.

Cystadleuaeth cyfieithu[golygu | golygu cod]

Pob blwyddyn mae Veritas yn cynnal cystadleuaeth cyfieithu pan-Ewropeaidd ar gyfer myfyrwyr prifysgol, a elwir yn Veritas University Challenge. Mae'r gystadleuaeth yn ceisio dod o hyd i gyfieithwyr talentog ledled Ewrop. Yn 2011 derbyniwyd dros 10,000 o geisiadau mewn 8 o ieithoedd.[12][13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Swansea University - Distinguished entrepreneurs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-19. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  2. Read, Martin. "And the winner is... you?". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-17. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  3. "Best of Swansea celebrated at regional business awards". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012.[dolen marw] (Saesneg)
  4. .Dare Hall, Zoe. "Lloyds/Telegraph awards reveal the best British entrepreneurs". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  5. "Lloyds Enterprise Awards - Wales heat". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012.[dolen marw] (Saesneg)
  6. "Shell LiveWIRE 'Hot 40' 2010 Finalists". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  7. "Natwest everywoman awards - Previous winners and finalists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-21. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  8. Pearson, Andy. "Business life on the buzzer". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012.[dolen marw] (Saesneg)
  9. "South Wales Business Awards 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-28. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  10. "The Mumpreneur Awards 2011: The Finalists!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-30. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  11. "The Independent: Inspiring Women in search of a Modern Muse". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  12. "Veritas University Challenge winner graduates". Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)
  13. Liaromatis, Laurie. "Oxford students win international translating competition". Oxford Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012. (Saesneg)

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]