SA1 Glannau Abertawe
Mae SA1 Glannau Abertawe (ar lafar: SA1) yn enw marchnata a roddir i ddatblygiad o ardal cyn-ddiwydiannol i'r gogledd o ddociau Abertawe. Lleolir yr ardal i dde-ddwyrain canol dinas Abertawe. Ymyla ar Ffordd Fabian i'r gogledd ac mae'n cynnwys ardal Dociau Tywysog Cymru.
Bydd y datblygiad yn gymysgedd o adeiladau masnachol a chartrefi. Disgwylir y bydd y datblygiad yn creu 2900 o swyddi newydd, dros 2000 o fflatiau a thai, 65,000 m² (700,000 troedfedd sgwâr) o fusnesau/swyddfeydd; 29,000 m² (312,000 troedfedd sgwâr) o adloniant masnachol; 26,400 m² (284,200 troedfedd sgwâr) o westai; 23,200 m² (249,700 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau sefydliadol; 1,015 m² (10,930 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau glannau'r marina.
Cynnwys |
Prosiectau sydd wedi'u cwblhau [golygu]
Erbyn mis Hydref 2008, roedd y prosiectau a oedd wedi'u cwblhau yn cynnwys:[1]
Swyddfeydd [golygu]
- dwy swyddfa Technium Abertawe yn ganolfannau busnes a ddatblygwyd ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Datblygu Cymru a Phrifysgol Abertawe er mwyn annog mwy o gwmnïau technolegol i sefydlu eu hunain yn y ddinas;
- swyddfeydd cwmni cyfreithiol Morgan Cole;
- Swyddfeydd Admiral Group House (nee Cyprium) wedi'u llogi gan gwmni yswiriant Admiral Insurance;
- Ellipse: 55,000 sq ft (5,100 m2) datblygiad gan Babcock and Brown llogwyd gan VOSA;[2]
- Datblygiad Swyddfa Prosiect Ethos;[3]
- Tŷ Langdon: swyddfeydd gan Broadhall Wharfedale.
Cartrefi [golygu]
- Altamar: 158 apartment gan Bellway Homes;
- Mariner's Court: 79 apartment ymddeol gan Coastal Housing Group
Amrywiol a datblygiadau eraill [golygu]
- tynnu i lawr ac ail-adeiladu yr Eglwys Norwyaidd;
- Warws y J Shed yn cael ei newid i safle fasnachol gan gynnwys swyddfeydd a thai bwyta;
- Eglwys Gymunedol y Glannau;
- Gwesty De Vere Village Hotel a Chanolfan Hamdden;
- canolfan gyfeiriol deintyddol.
Mynediad [golygu]
- Pont yr Hwyl; a
- Phont Traffalgar dros argae Bae Swansea.
Cofeb rhyfel [golygu]
Lleolir cofeb rhyfel yn y Sgwâr rhwng y ddau adeilad Technium i gofio morwyr Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ http://www.sa1swanseawaterfront.com/server.php?show=nav.8839 "SA1 Developments to date"] Cynulliad Cenedlaethol Cymru Adalwyd 16-04-2009
- ↑ WalesOnline: Vehicle agency motors to gateway
- ↑ New Ethos for Swansea Technium companies