Vanessa Williams
Oddi ar Wicipedia
Actores a chantores Americanaidd yw Vanessa Lynn Williams (ganwyd 18 Mawrth 1963). Creodd hanes ar 17 Medi 1983, pan ddaeth yn y fenyw gyntaf o hynafiad Affro-Americanaidd i gael ei choroni Miss America. Ar ôl i'w theyrnasiad fel Miss America ddod i ben yn sydyn dechreuodd ei gyrfa fel cantores ac actores gan ennill Grammy, Emmy ac enwebiadau Gwobrau Tony.
Ar hyn o bryd mae'n chwarae'r rôl Wilhelmina Slater ar y ddrama Americanaidd Ugly Betty.