Vélodrome Jacques-Anquetil

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Stadiwm yn Vincennes, ger Paris, Ffrainc yw'r Vélodrome Jacques-Anquetil (Cipale cyn 1987), adnabyddir hefyd fel y Vélodrome de Vincennes.

Hanes[golygu]

Vélodrome Jacques-Anquetil

Adeiladwyd y vélodrome yn 1894, a daeth yn brif stadiwm Gemau Olympaidd 1900, a dyna lle gynhaliwyd y seremoni agoriadol; ond cynhaliwyd y cystadlaethau athletau trac a chae yn Racing Club de France. Roedd y cystadlaethau yn y Vélodrome yn cynnwys seiclo, criced, rygbi'r undeb, pêl-droed a gymnasteg. Defnyddiwyd y stadiwm ar gyfer seiclo a phêl-droed unwaith eto yng Ngemau Olympaidd 1924.

Dyma oedd lleoliad diwedd y Tour de France rhwng 1968 ac 1974, ac yn nodweddiadol lle enillodd Eddy Merckx pob un o'i bump buddugoliaeth yn y Tour. Cyn hyn, bu'r diwedd yn y Parc des Princes rhwng 1904 a 1967. Mae'r Tour de France wedi gorffen ar y Champs-Élysées ers 1975.

Mae'r stadiwm yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer seiclo a gemau rygbi a phêl-droed hyd heddiw.