Twyllresymeg y chwimsaethwr o Decsas

Oddi ar Wicipedia

Mae twyllresymeg u chwimsaethwr o Decsas yn dwyllresymeg anffurfiol sy'n codi wrth anwybyddu gwahaniaethau mewn data, ond wrth or-bwysleisio'r tebygrwyddau. O'r rhesymu hwn cawn gasgliadau ffug.[1] Mae'r dwyllresymeg hon yw cymhwysiad athronyddol neu rethregol o'r broblem cymariaethau lluosog (mewn ystadegaeth) ac apophenia (mewn seicoleg wybyddol). Mae'n gysylltiedig â'r rhith glystyru, sef y duedd mewn gwybyddiaeth ddynol i ddehongli patrymau lle nad oes rhai yn bodoli mewn gwirionedd.

Daw'r enw o jôc am rywun o Decsas sy'n saethu nifer o weithiau i ochr ysgubor. Yna mae'n paentio targed wedi'i ganoli ar y clwstwr tynnaf o drawiadau ac yn honni ei fod yn chwimsaethwr.[2][3][4]

Strwythur[golygu | golygu cod]

Set o 100 o gyfesurynnau a gynhyrchir ar hap wedi'u harddangos ar graff gwasgariad. Wrth archwilio'r pwyntiau mae'n hawdd adnabod patrymau ymddangosiadol. Yn benodol, nid yw pwyntiau data ar hap yn ymledu ond yn clystyru, gan roi'r argraff o "fannau poeth" a grëwyd gan ryw achos sylfaenol.

Mae twyllresymeg y chwimsaethwr o Decsas yn aml yn codi pan fydd gan berson lawer iawn o ddata ar gael, ond dim ond yn canolbwyntio ar is-set fach o'r data hwnnw. Dywedwch fod ymchwilydd yn canfod is-set o'r data gyda phriodweddau cyffredin, yna efallai bydden nhw'n dweud taw'r ffactor sy'n diffinio'r is-set hynny sy'n achosi'r briodwedd gyffredin hwnnw. Ond gall rhyw ffactor heblaw'r un a briodolir rhoi rhyw fath o briodwedd gyffredin (neu bâr o briodweddau cyffredin, wrth ddadlau dros gydberthynas) i'r holl elfennau yn yr is-set honno. Os yw'r person yn ceisio rhoi cyfrif am y tebygolrwydd o ddod o hyd i ryw is-set yn y data mawr gyda rhyw briodwedd gyffredin, yna mae'r person hwnnw'n debygol o gyflawni'r dwllresymeg hon.

Nodwedd bwysig o'r dwyllresymeg hon yw diffyg rhagdybiaeth benodol cyn casglu data, neu ond ffurfio rhagdybiaeth ar ôl i ddata gael ei gasglu a'i archwilio eisoes.[5] Dyma un agwedd o rywbeth a elwir carthu data (data dredging), a hacio-p (p-hacking), sy'n arwain at wyddoniaeth wael[6]. Er mwyn osgoi hwn, fe ddylai ymchwilwyr cynhyrchu rhagdybiaeth yn gyntaf, a chasglu'r data er mwyn ei phrofi. Neu, gallan nhw gynhyrchu rhagdybiaeth trwy archwilio'r data, ond yna casglu data newydd a phrofi'r rhagdybiaeth ar y data newydd. (Gweler prawf rhagdybiaeth.) Yr hyn na all rhywun ei wneud yw defnyddio'r un wybodaeth i lunio a phrofi'r un rhagdybiaeth - byddai gwneud hynny yn cyflawni'r dwyllresymeg.

Mae'r dwyllresymeg hon hefyd yn codi wrth wneud nifer mawr o gymariaethau ar yr un data. Mae cywiriad Bonferroni yn un ffordd o gywiro am y broblem hon.[7]

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

  • Ceisiodd astudiaeth yn Sweden ym 1992 benderfynu a oedd llinellau pŵer yn achosi rhyw fath o effeithiau iechyd gwael. Gwnaeth yr ymchwilwyr arolwg o bobl sy'n byw o fewn 300 metr i linellau pŵer foltedd uchel dros gyfnod o 25 mlynedd, ac edrychon nhw am gynnydd ystadegol arwyddocaol mewn cyfraddau o dros 800 o anhwylderau. Canfu’r astudiaeth fod nifer yr achosion o lewcemia plentyndod bedair gwaith yn uwch ymhlith y rhai a oedd yn byw agosaf at y llinellau pŵer, a sbardunodd galwadau i weithredu gan lywodraeth Sweden.[8] Y broblem gyda'r casgliad, fodd bynnag, oedd bod nifer yr anhwylderau posib, dros 800, mor fawr nes ei fod yn creu tebygolrwydd uchel y byddai o leiaf un anhwylder yn dangos cynnydd ystadegol "arwyddocaol" trwy ar-haprwydd yn unig; h.y., y broblem cymariaethau lluosog . Methodd astudiaethau dilynol i ddangos unrhyw gysylltiad rhwng llinellau pŵer a lewcemia plentyndod.[9]
  • Mae'r camwedd hwn i'w gael yn aml mewn dehongliadau modern o benillion Nostradamus. Mae penillion Nostradamus yn aml yn cael eu cyfieithu’n rhydd o’r Ffrangeg gwreiddiol (hynafol), eu tynnu o’u cyd-destun hanesyddol, ac yna eu cymhwyso i gefnogi’r casgliad bod Nostradamus wedi rhagweld digwyddiad modern penodol, ar ôl i’r digwyddiad ddigwydd mewn gwirionedd.[10]
  • Mae'r wefan https://www.tylervigen.com/spurious-correlations Archifwyd 2019-06-27 yn y Peiriant Wayback. yn dangos nifer o rain, er enghraifft mae'r ddelwedd isod yn dangos cydberthynas rhwng nifer o lythrennau mewn cystadleath sillafu, a nifer o bobl cafodd ei ladd gan pry-cop gwenwynol. Does 'na ddim achosiaeth, na hyd yn oed ffactor cudd neu newidyn dryslyd (ffactor arall gall achosi newidiadau i'r ddau beth, er nad ydynt yn effeithio ar ei gilydd). Yn yr achosion hyn, cafodd nifer mawr iawn o ffactorau eu cymharu, wrth wneud mwy o gymariaethau y mwy tebygol fydd o ganfod cydberthynas ar hap, ac ond y cymariaethau sy'n dangos cydberthynas sy'n cael ei adrodd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bennett, Bo, Logically Fallacious, http://www.logicallyfallacious.com/index.php/logical-fallacies/176-texas-sharpshooter-fallacy, adalwyd 21 October 2014, "description: ignoring the difference while focusing on the similarities, thus coming to an inaccurate conclusion"
  2. Barry Popik (2013-03-09). "Texas Sharpshooter Fallacy". barrypopik.com. Cyrchwyd 2015-11-10.
  3. Atul Gawande (1999-08-02). "The cancer-cluster myth" (PDF). The New Yorker. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2009-10-10.
  4. Carroll, Robert Todd (2003). The Skeptic's Dictionary: a collection of strange beliefs, amusing deceptions, and dangerous delusions. John Wiley & Sons. t. 375. ISBN 0-471-27242-6. Cyrchwyd 2012-03-25. The term refers to the story of the Texan who shoots holes in the side of a barn and then draws a bull's-eye around the bullet holes
  5. Thompson, William C. (July 18, 2009). "Painting the target around the matching profile: the Texas sharpshooter fallacy in forensic DNA interpretation". Law, Probability, & Risk 8 (3): 257–258. doi:10.1093/lpr/mgp013. http://lpr.oxfordjournals.org/content/8/3/257.full.pdf+html. Adalwyd 2012-03-25. "Texas sharpshooter fallacy...this article demonstrates how post hoc target shifting occurs and how it can distort the frequency and likelihood ratio statistics used to characterize DNA matches, making matches appear more probative than they actually are."
  6. Smith, George Davey; Ebrahim, Shah (2002-12-21). "Data dredging, bias, or confounding". BMJ : British Medical Journal 325 (7378): 1437–1438. ISSN 0959-8138. PMC 1124898. PMID 12493654. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1124898/.
  7. "Teoria Statistica Delle Classi e Calcolo Delle Probabilità", Encyclopedia of Research Design (SAGE Publications, Inc.), doi:10.4135/9781412961288.n455, ISBN 978-1-4129-6127-1, https://dx.doi.org/10.4135/9781412961288.n455, adalwyd 2020-09-30
  8. https://www.newscientist.com/article/mg13618450-300-swedish-studies-pinpoint-power-line-cancer-link/
  9. "Frontline: previous reports: transcripts: currents of fear". PBS. 1995-06-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-03. Cyrchwyd 2012-07-03.
  10. "Nostradamus Predicted 9/11?". snopes.com. Cyrchwyd 2012-07-03.