Tutsi
Grŵp ethnig Affricanaidd yn byw yn Bwrwndi, Rwanda a rhannau o Weriniaeth Ddemocrataidd Congo yw'r Tutsi (hefyd Watutsi a Batutsi).
Dywedir fod y Tutsi yn wreiddiol o Ddwyrain Affrica, efallai Ethiopia, a'u bod wedi ymfudo i Rwanda a Burundi yn yr 11eg ganrif. Yn y 16eg ganrif, ffurfiwyd teyrnasoedd Tutsi yn yr ardaloedd hyn. Yn draddodiadol, roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Burundi, tra'r oedd yr Hutu yn tyfu cnydau, a dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.
Yn yr 20fed ganrif, bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn 1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn Hil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar 6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, ac hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.
Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Burundi [golygu]
| Tutsi | Hutu | Twa | |
| Rwanda | 9% | 90% | 1% |
| Bwrwndi | 16% | 83% | 1% |