Hutu

Oddi ar Wicipedia

Grŵp ethnig Affricanaidd yn byw yn Bwrwndi, Rwanda a rhannau o Wganda yw'r Hutu.

Yn draddodiadol, roedd yr Hutu yn ddarostyngedig i'r Tutsi. Roedd y Tutsi yn ffermwyr gwartheg ac yn ffurfio dosbarth o uchelwyr yn Rwanda a Bwrwndi, tra'r oedd yr Hutu yn tyfu cnydau dan reolaeth y Tutsi. Gwaherddid priodasau rhwng Hutu a Tutsi.

Yn yr 20g bu llawer o derfysg rhwng y Tutsi a'r Hutu. Yn 1961 llwyddodd yr Hutu i gipio grym yn Rwanda gan ddiorseddu'r brenin Tutsi, Mwami. Yng nghanol y 1960au, cipiodd swyddog Tutsi rym yn Bwrwndi.

Yn 1994, lladdwyd rhwng 500,000 a miliwn o bobl gan ddau filisia Hutu yn Hil-laddiad Rwanda, a ddechreuodd ar 6 Ebrill pan saethwyd i lawr awyren yn cynnwys Arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana. Lladdwyd Habyarimana, oedd yn aelod o'r Hutu. Yn y tri mis nesaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi, ac hefyd rhai Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia.

Canran Hutu, Tutsi a Twa yn Rwanda a Bwrwndi[golygu | golygu cod]

Tutsi Hutu Twa
Rwanda 9% 90% 1%
Bwrwndi 16% 83% 1%