Trujillo (Cáceres)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Plaza Mayor yn Trujillo, gyda'r cerflun o Francisco Pizarro

Dinas yn nhalaith Cáceres yn Extremadura yng ngorllewin Sbaen yw Trujillo. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 10,276.

Saif 564 medr uwch lefel y môr, 47 km i'r dwyrain o Cáceres. Enw'r ddinas yn ystod y cyfnod Rhufeinig oedd Turgalium. Yn ddiweddarach bu ym meddiant y mwslimiaid am bum canrif hyd 1186.

Mae Trujillo yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, ac mae'n adnabyddus oherwydd ei chysylltiad a nifer o ffigyrau amlwg yn hanes concwest De America. Brodorion o Trujillo oedd Francisco Pizarro, y gŵr a ddinistriodd Ymerodraeth yr Inca a choncro Periw, a Francisco de Orellana, y cyntaf i deithio ar hyd Afon Amazonas.