Troyes
Oddi ar Wicipedia
Tref a chymuned yn nwyrain Ffrainc yw Troyes. Hi yw prifddinas département Aube. Saif ar afon Seine, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 60,958.
Yma yr arwyddwyd Cytundeb Troyes yn 1420, penllanw llwyddiant Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd. Dan y cytundeb yna, daeth Harri V, Brenin Lloegr yn etifedd coron Ffrainc yn lle'r Dauphin. Yn nes ymlaen, fodd bynnag, coronwyd y Dauphin yn frenin Ffrainc fel Siarl VII, gyda chymorth Jeanne d'Arc, a llwyddodd i ad-ennill y deyrnas.
Bu'r awdur Chrétien de Troyes yn byw yma, ac fe allai fod yn enedigol o Troyes.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu]
- Eglwys Gadeiriol Saint-Pierre-et-Saint-Paul
- Hôtel de Ville
Enwogion[golygu]
- François Girardon (1628-1715), cerflunydd
- Édouard Herriot (1872-1957), gwleidydd