Troedfawr

Oddi ar Wicipedia
Delwedd honedig o'r Troedfawr o'r ffilm Patterson-Gimlin

Creadur mytholegol, sy'n debyg i epa, yw Troedfawr (Saesneg: Bigfoot neu 'Sasquatch'). Dywedir ei fod yn byw mewn coedwigoedd gan amlaf, yn bennaf yng Ngogledd America. Fel arfer caiff Troedfawr ei ddisgrifio fel creadur mawr, dwy-droediog a blewog. Ceir creaduriaid tebyg iddo mewn chwedloniaeth nifer o wledydd ledled y byd a'r enghraifft fwyaf enwog yw'r Ieti yn yr Himalayas.

Ystyria'r gymuned wyddonol fod Troedfawr yn gyfuniad o chwedloniaeth, cellwair a cham-weld. Er fod gan bodolaeth Troedfawr yn amheus, mae'n un o'r esiamplau gorau o gryptoswyddiaeth ac mae wedi datblygu i fod yn symbol poblogaidd.

Disgrifiad Ohono a'i Ymddygiad[golygu | golygu cod]

Disgrifir Troedfawr fel creadur mawr, tebyg i epa sydd a thaldra'n amrywio o 6 i 10 toredfedd (1.8-3.0 medr) ac yn pwyso dros 500 pwys (230 kg) ac wedi'i orchuddio gan flew brown neu goch tywyll. Dywed tystionau fod ganddo lygaid mawr, talcen amlwg a thalcen isel; disgrifir top ei ben fel un crwn yn debyg i ben gorila gwrywaidd. Dywedir hefyd fod ganddo arogl cryf, annymunol gan y bobl sydd wedi dod ar ei draws. Mae'r olion traed sydd wedi rhoi ei enw iddo wedi cael eu mesur yn 24 modfedd (61 cm) o hyd ac 8 modfedd o led (20 cm). Tra bod gan y mwafrif o greaduriaid tebyg bum bys ar eu traed, honnir bod y castiau a wnaed o draed Troedfawr yn dangos unrhyw beth o ddau i chwech bys. Dywed rhai hefyd bod ganddo grafangau, sy'n awgrymu ei fod yn dod o deulu anifeiliaid fel eirth, sydd yn meddu ar bedwar bawd a chrafangau. Dywedid hefyd fod Troedfawr yn bwyta cig a llysiau ac yn dod allan yn bennaf yn y nos.