Tram Llandudno a Bae Colwyn

Oddi ar Wicipedia

Gweithredodd Rheilffordd Trydan Bae Llandudno a Bae Colwyn wasanaeth tram trydan rhwng Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos o 1907 a'i ymestyn i Fae Colwyn ym 1908. Caewyd y gwasanaeth ym 1956.[1]

Tram ar gornel hen Siop Hoosons, Stryd Gloddaeth Llandudno, yn amlwg ar amser prysur

Hanes[golygu | golygu cod]

Logo Cwmni'r Tram

Yn ystod nawdegau’r 19g y dechreuwyd sôn o ddifri’ am adeiladu tramffordd rhwng Llandudno a Bae Colwyn. Rhoddwyd hwb i’r fenter ym 1896 pan basiwyd Deddf Rheilffyrdd Ysgafn oedd yn ei gwneud yn haws a rhatach i allu gwireddu’r freuddwyd. Gwnaed cais yn Rhagfyr y flwyddyn honno i osod trac 4½ milltir o hyd a 3 troedfedd 6 modfedd o led ar gost o £28,000. Gwrthododd y Comisiynwyr y cais. Yn Awst, 1897, gwnaed cais arall—y tro yma am dros wyth milltir o drac o Ffordd Bay View, Bae Colwyn, yr holl ffordd i Ddeganwy ar gost o £65,000. Yn rhyfeddol, ‘roedd Cyngor Llandudno yn gwrthwynebu am eu bod yn awyddus i adeiladu eu tramffordd eu hunain! Ar yr 2ail o Fehefin, 1899, fodd bynnag, cafwyd caniatad, ond oherwydd agwedd Stad Mostyn a rhwystrau eraill ‘roedd y costau cyfreithiol yn unig wedi codi 1 £25,000 erbyn 1901. ‘Roedd y cynllun i fod i gael ei orffen erbyn 1902, ond bu’n rhaid gofyn am estyniad sawl tro.

Tram cynnar yn Llandudno ar Hydref 19, 1907– dau ddiwrnod wedi’r agoriad swyddogol, a’r diwrnod cyntaf pryd y cariwyd y teithwyr cyffredin

Doedd hi ddim yn hawdd codi arian chwaith a dim ond 11,560 siar a werthwyd. Ar y 10fed. O Hydref, 1903 cyhoeddodd y North Wales Chronicle bod y gwaith adeiladu trac wedi dechrau ar 1,000 llath o ffordd ger Llandrillo yn Rhos, ond ‘roedd Cyngor Llandudno yn dal i wrthwynebu a Syr George Cayley hefyd. Ef oedd yr un yr enwyd promenâd y Rhos ar ei ôl! Erbyn Ionawr 1904 cyrhaeddwyd Ffordd y Rhos ond bu mwy o wrthwynebu am nad oedd y trac yn cael ei osod yn gywir! Ar y 10fed o Fawrth arwyddwyd cytundeb gyda Hewitt a Rhodes i osod y trac o Rhos i Stryd Mostyn, Llandudno ar gost o £99,440—y gwaith i’w orffen erbyn Mai 1af. Ond, nid felly y bu a rhaid fu gofyn am estyniad arall! Bu rhwystr arall pan aeth yr LCBET yn fethdalwyr a Chwmni Carnarvonshire Electric Traction Syndicale ddaeth i’r adwy. Cyrhaeddodd dau dram newydd yn gynnar yn 1907 ar dreial, ond bu’n rhaid eu dychwelyd. Codwyd depo newydd yn Rhos a llwyddwyd i osod y trac cyn belled â Phenmorfa. Gosodwyd yr wifrau trydan a chafwyd cytundeb i’w cysylltu â Gorsaf Bwer Cyngor Llandudno ar Ffordd Maesdu. Archebwyd 14 o dramiau gan y Midland Railway Carriage and Wagon yn Amwythig.

Dau dram tu allan i’r depo a godwyd yn Llandrillo yn Rhos

Archwiliwyd y rhan gorffenedig ar 26ain o Fedi, 1907 a chytunwyd i agor y lein ar Ddydd Iau, Hydref 17 gyda gwesteion a chynghorwyr yn cael eu cario. Deuddydd yn ddiweddarach ar 19eg o Hydref agorwyd y trac i’r cyhoedd gyda thramiau yn gadael y Rhos a Phenmorfa ar yr un adeg. Ar y diwrnod cyntaf cariwyd 4,434 o deithwyr. Yn wreiddiol ‘roedd terfyn gorllewinol y tram ym Mhenmorfa ger Dale Street, ond, mis yn unig y parhaodd hynny, a symudwyd y terfyn i Rodfa Gloddaeth. O Benmorfa teithiai’r tram ar hyd Rhodfa Gloddaeth, Stryd Gloddaeth a throi i’r dde ar hyd Stryd Mostyn a Mostyn Broadway. Ymlaen hyd Rhodfa Mostyn, Craig y Don nes cyrraedd Ffordd Nant y Gamar, drwy Gaeau Bodafon at Ffordd Bryn y Bia. Ymlaen i ben Allt Penrhyn cyn symud i lawr ffordd breifat i Fae Penrhyn. Ar hyd Ffordd Glan y Môr heibio Clwb Golff Rhos a throi i’r dde i Tramway Avenue (Rhodfa Penrhyn erbyn hyn), at y depo, ble ‘roedd lle i gadw 26 tram, ac yno ‘roedd diwedd y daith ar y cychwyn.

Tram cynnar newydd basio un arall ar Stryd Mostyn, Llandudno tua 1910

Ym Medi 1907 cafwyd caniatad i ymestyn y trac o Rhos i Fae Colwyn O ganol Rhos ‘roedd y tramiau i deithio ar hyd y promenâd am chwarter milltir cyn anelu am Rhodfa Brompton ac yna at ganol Bae Colwyn ar hyd Ffordd Abergele hyd at Ffordd yr Orsaf. Yn gyntaf, ‘roedd yn rhaid lledu Ffordd Rhos a rhan o Ffordd Abergele. Llwyddwyd i agor y rhan newydd ar y 7fed o Fehefin, 1908. Yma, ger Ffordd yr Orsaf,‘roedd pen y daith rhwng 1908 a 1915.

Pen y daith ym Mae Colwyn rhwng 1908 a 1915 tu allan i Westy’r Central ar gornel Ffordd yr Orsaf.

Rhoddodd y Cwmni flaenoriaeth ar ôl hynny i ‘ddwblu’r’ trac, ac araf iawn fu’r gwaith o orffen yr estyniad i Hen Golwyn. Rhoddai’r Cwmni’r bai am yr oedi ar Gyngor Bae Colwyn ym 1911, ond cafwyd caniatad i ymestyn y trac hyd at Gwesty’r Queens ym 1912, ond ni chafodd y gwaith ei gwbwlhau hyd 26 Mawrth, 1915. Yn y cyfamser, ’roedd cwynion bod y tramiau yn cael eu gadael dros nos heb olau yn achosi peryglon.

Byr iawn fu oes yr estyniad i Hen Golwyn ac ni chafodd y trac ei ‘ddwblu’ o gwbl. Penderfynwyd ar 22ain. Medi, 1930 i gau’r trac o gornel Ffordd Greenfield i Hen Golwyn oherwydd amrywiol broblemau, ond yn bennaf oherwydd trafferthion gyda’r traffig ym Mae Colwyn ei hun.

Tram yn Hen Golwyn. Sylwch pa mor gul oedd y ffordd. Plough Terrace oedd enw’r tai teras ar y dde. Bellach, maent wedi eu dymchwel

Teithwyr[golygu | golygu cod]

‘Roedd y tram yn boblogaidd iawn tua 1919, ac yn ôl yr ystadegau, cariwyd 2,879,636 o deithwyr yn ystod y flwyddyn yn terfynu ar Dachwedd 30ain. Hon oedd y record. Dros y blynyddoedd dilynol bu’r ffigwr yn weddol wastad—tua 2.5 miliwn. Hen geiniog y filltir oedd y gost am deithio. Felly, fe gaech eich cario o un pen i’r trac i’r llall yn 1907 am bum hen geiniog.

Yr eithriad i’r rheol yma oedd y gost i weithwyr sef dimai y filltir. ‘Roedd caniatad i gario 28 pwys o nwydau yn ddi-dal. Hefyd, ‘roedd gan y cwmni yr hawl i gario sawl matho nwyddau yn cynnwys parseli, glo a gwartheg!

Fel y dywedwyd eisioes, rhoddodd y Cwmni gryn flaenoriaeth i ‘ddwblu’r trac ac yma gwelir y gwaith yn mynd rhagddo ychydig tu draw i hen swyddfeydd y cyngor ar gornel Ffordd Coed Pella

Rhan Deganwy[golygu | golygu cod]

Er bod y Cwmni wedi cael caniatado’r cychwyn i osod trac cyn belled â Deganwy, nid felly y bu. Sylweddolwyd na fyddai llawer o alw am y gwasanaeth ac ‘roedd y ffaith bod rheilffordd yn barod yn cysylltu’r ddau le, a rhoddwyd heibio’r bwriad ym 1922. Canolbwyntiwyd yn hytrach ar ddwblu’r trac rhwng y ddwy dref, ond parhaodd rhai mannau megis Rhodfa Brompton gydag un trac yn unig hyd y diwedd.

Prysurdeb ar Stryd Gloddaeth ger Cornel Hooson yn Llandudno gyda thri tram yn brysur yn cario teithwyr.

Dyma un o’r ‘toastracks’ ar ei ffordd i lawr Allt Penrhyn yn nechrau’r pumdegau. ‘R oedd rhain yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr yn enwedig ar dywydd braf, a chymdeithasau yn eu llogi ar gyfer gweld yr ardal. Sylwch ar y ddwy goets Bedford Duple, yr hen Morris 8 a’r Ffordyn ar y blaen

Damweiniau[golygu | golygu cod]

Yn anffodus, bu nifer o ddamweiniau dros y blynyddoedd, ond wrth lwc rhai man yn bennaf. Ond, bu pedair damwain angeuol yn ystod oes y tram. Bu’r gyntaf ar y 3ydd o Orffennaf, 1914 pan laddwyd bachgen deg oed o Fae Penrhyn, Trevor Roberts, wrth iddo groesi’r ffordd ger Clwb Golff Rhos, ble ‘r oedd yn gweithio fel ‘cadi’ ar ôl oriau’r ysgol, Gwraig o Gaergybi, Dorothy Wall, oedd yr ail. Fe faglodd hi a thorri asgwrn ei phen wrth geisio osgoi tram yng Nghraig y Don ar y 9fed o Chwefror, 1928. Bachgen teirblwydd a gafodd ei daro gan dram yn Rhodfa Penrhyn, Llandrillo yn Rhos oedd y trydydd. Digwyddodd y ddamwain honno ar y 15fed o Fai, 1936, pan oedd o’n rhedeg ar ôl pêl

Rhoddwyd ystyriaeth ym 1931 i newid y tramiau am fwsiau troli gan fod yr hen dramiau yn dod i ddiwedd eu hoes. Ond gyda gwasanaeth Accrington yn gorffen penderfynwyd rhwng 1932 ac 1933 i brynu pum tram un llawr o rai’r cyngor hwnnw. Ym 1936, prynwyd deg ‘dwbwl decar’ heb do o Bournemouth. Rhain oedd dwbwl decars cyntaf y cwmni ac ‘r oedd hynny ynddo’i hun yn creu problemau gan fod gorchymyn nad oedd hawl i gario teithwyr ar y llawr uchaf ar y mannau agored ym Mae Penrhyn na dros y Gogarth Fach os oedd y gwynt yn chwythu’n gyflymach na 50mya. Ar y cychwyn ‘roedd anemomedr i fesur cyflymdra’r gwynt, ond yna penderfynwyd defnyddio tramiau un llawr yn unig pan oedd y gwynt yn codi.

Tybed ai am fod y gwynt yn chwythu’n gryf ‘roedd tram un llawr yn teithio i lawr Allt Penrhyn? Sylwch ar y bwthyn ar waelod yr allt. Dyna ble mae safle Conwy Valley Windows heddiw

Cyfnod yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Yn ystod y cyfnod yma parhaodd y cwmni i redeg tramiau yn ddi-dor. Fodd bynnag, ‘r oedd yn rhaid duo’r ffenestri a defnyddio bylbiau glas. Hefyd, os oedd y seiren awyr yn canu i rybuddio bod awyrennau’r gelyn yn hedfan uwchben, ’r oedd yn rhaid i’r tramiau stopio ar unwaith rhag ofn i’r fflachiadau o’r wifrau uwchben gael eu gweld gan beilotiaid yr awyrennau rhyfel. Ar un olwg bu’r rhyfel o fudd i’r cwmni gan fod nifer o asiantaethau’r llywodraeth wedi cael eu hail-leoli ym Mae Colwyn a Llandudno, a chyda dogni petrol yn ei gwneud yn anodd i berchenogion ceir, ’r oedd mwy a mwy yn gorfod defnyddio’r tramiau i deithio rhwng y ddwy dref.

Effeithiau'r tywydd garw[golygu | golygu cod]

Er na fu difrod o du’r awyrennau, ni fu’r tywydd yn garedig wrth y cwmni na’u trac yn ystod y cyfnod yma’ Bu storm gref yn ystod Gwanwyn 1943 gyda gwyntoedd cryfion a thonnau uchel yn achosi problemau a difrod ym Mae Penrhyn, yn ogystal â phroblemau ar Allt Penrhyn. Yn Hydref 1945 gwnaed difrod sylweddol unwaith eto yn yr un lle gan storm arall. ‘D oedd hi fawr o help chwaith pan, ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, aeth tram rhif 16 ar dân wedi i’r echel or-boethi, a bu’n rhaid ei ‘sgrapio’. ‘R oedd morglawdd Bae Penrhyn yn parhau i achosi problemau i’r cwmni. Yn ystod Haf 1953 cafodd yr awdurdodau lleol grant gan y llywodraeth i adeiladu morgloddiau newydd, ond golygodd hyn wneud i ffwrdd â rhan o’r trac ym Mae Penrhyn. Bu llawer o ffraeo ynglŷn â’r costau ac annghytuno ynglŷn â’r swm y dylai’r cwmni ei dalu gan mai eu ffordd breifat hwy oedd y terfyn â’r morglawdd.

Mae’n debyg mai’r rhan yma o’r trac ym Mae Penrhyn, oedd yn ffordd breifat ble codai’r cwmni doll am ei defnyddio,, fu’n rhannol gyfrifol am ei ddiwedd. Bu problemau gydag effeithiau stormydd a chostau codi’r morglawdd. Hefyd, yma ger y Clwb Golff y bu damwain angeuol i Trevor Roberts, deg oed

Materion ariannol[golygu | golygu cod]

Doedd cyflwr ariannol y cwmni ddim yn foddhaol chwaith, ac er bod nifer y teithwyr a gariwyd ym 1953 yn £2,744,593, a’r arian a gasglwyd yn £31,137, fe wnaed colled o £1,222.

Yna, aeth pethau o ddrwg i waeth ym 1954. ‘R oedd nifer y teithwyr a gariwyd i lawr eto 2,697,994, yr arian a gasglwyd yn £30,906 a’r golled bron a threblu i £3,004. Ym 1948 ‘r oedd Cyngor Llandudno wedi prynu (a thrwy hynny wedi achub) Tram y Gogarth, ond nid oeddynt yn barod i losgi’u bysedd i geisio achub y fenter yma!

Ar y 14eg o Fedi 1955 cyhoeddwyd y byddai gwasanaeth y tram yn gorffen. Prynodd y cwmni hen ddwbwl decs Leyland Titan gan Gwmni East Kent Road er mwyn ail hyfforddi’r gyrwyr. Rhoddwyd hoelen arall yn yr arch gan Gwmni Trydan MANWEB oedd yn disgwyl derbyn canpunt y dydd yn dâl am gyflenwad trydan pan ddeuai’r hen gytundeb i ben yn Haf 1956. Penderfynwyd mai Dydd Sadwrn, Mawrth 24, 1956, fyddai’r diwrnod olaf. Diwrnod oer a dwl oedd hi a chynhaliwyd parti yng Ngwesty’r Imperial i nodi’r achlysur. Am 10.20 yr hwyr cychwynnodd y tram olaf swyddogol (rhif 8) ger Gwesty’r North Western i deithio i Ben Morfa gyda rhif 4 yn dilyn. Wrt adael Pen Morfa i ddychwelyd drwy’r dref canwyd ‘Auld Lang Syne’. Aed ymlaen i gyfeiriad y Gogarth Fach gyda Cadeirydd Cyngor Llandudno yn gyrru’r tram cyn belled â’r depo. Cymerwyd yr awenau oddi yno i ben y daith gan Gadeirydd Cyngor Bae Colwyn. ‘Roedd yn un o’r gloch y bore erbyn i’r tram olaf gyrraedd yn ôl i’r depo.

Y tram olaf un ar y siwrnai olaf wedi aros tu allan i Siop Browns yn Llandudno

Y diwrnod wedyn dechreuodd gwasanaeth bwsiau’r cwmni—ond rhai digon hen oeddynt wedi’u paentio’n goch a lliw hufen fel y tramiau gwreiddiol. Chwe dwbwl dec oedd ganddynt ar y cychwyn—dau Daimler a brynwyd gan Gyngor Newcastle a’r pedwar arall yn rhai Guy Arab a brynwyd gan Gwmni Southdown. Bu’r gystadleuaeth gyda Chwmni Crosville yn un ffyrnig. Cyhoeddwyd yn Ebrill, 1961 bod y gwasanaeth yn dod i ben ac ar Ddydd Sadwrn, Mai 27ain., Ar y diwrnod canlynol, Dydd Sul, Mai 28ain., ‘roedd Cwmni Crosville yn gorfoleddu ar ôl talu £40,000 am yr hawl i redeg y gwasanaeth yn di-wrthwynebiad.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Y tram ar dreilar yn cael ei dynnu gan lorri ar hyd strydoedd Llandudno

Ffurfiwyd Cymdeithas Tram Llandudno ym Medi 1974. Ceisiwyd prynu un o’r hen dramiau oedd yn Amgueddfa Clapham. Fodd bynnag, llwyddwyd i brynu gweddillion hen dram Northampton ym 1977 a ganfuwyd mewn fferm, a’i symud i ardal Llandudno. Hefyd, prynwyd dau arall o hen dramiau ‘dwbwl decs’ Bournemouth. Y gobaith yw rhyw ddydd i redeg y tramiau ar rywle fel Caeau Bodafon at y promenâd. Cawn weld!

Mwy o Luniau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd yr erthygl yma gan Gareth Pritchard mewn nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys 'Y Pentan' a'r 'Herald Cymraeg' (Daily Post).

  1. The Golden Age of Tramways. Taylor and Francis.