Tom Parri Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd ac awdur Cymreig oedd Tom Parri Jones (1905 - 1980), sy'n adnabyddus am ei straeon byrion ffraeth. Roedd yn frodor o Ynys Môn, lleoliad nifer o'i straeon.

Dim ond ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio ar fferm ei dad. Fe'i trawyd gan polio yn ifanc a bu'n dioddef ohono am weddill ei oes.

Roedd yn fardd crefftus. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am y gerdd Y Bont yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963, a'r Gadair hefyd.

Fe'i cofir yn bennaf am ei straeon byrion ysgafn a llawn hiwmor am fywyd gwerin Môn. Enillodd y Fedal Ryddiaith am y gyfrol Teisennau Berffro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Bu'n orweddiog oherwydd y polio am gyfnodau hir wrth ysgrifennu'r olaf o'r straeon hyn.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cerddi[golygu]

  • Preiddiau Annwn (1946)
  • Cherddi Malltraeth (1978)

Straeon[golygu]

  • Teisennau Berffro (1958)
  • Yn Eisiau, Gwraig (1958)
  • Traed Moch (1971)
  • Y Felltith (1977)