Tom O'Connor

Oddi ar Wicipedia
Tom O'Connor
Enw bedyddThomas Patrick O'Connor
Geni(1939-10-31)31 Hydref 1939
Bootle, Swydd Gaerhirfryn
Marw18 Gorffennaf 2021(2021-07-18) (81 oed)
Slough, Berkshire, England
CyfrwngTeledu
Blynyddoedd gwaith1970–2021
PriodPatricia Finan
Gweithiau nodedigSeren The Comedians a Crosswits ar ITV
Gwefanhttp://www.tomoconnor.co.uk/

Digrifwr, cyflwynydd teledu ac actor o Sais oedd Thomas Patrick O'Connor (31 Hydref 193918 Gorffennaf 2021)[1]. Cychwynodd yn wreiddiol fel digrifwr mewn clybiau dynion dosbarth gweithiol, ac aeth ei yrfa ymlaen i gyflwyno sioeau gemau fel Crosswits, The Zodiac Game, Name That Tune, Password a Gambit.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Mynychodd O'Connor Goleg y Santes Fair, Crosby,[2] a Choleg y Santes Fair, Twickenham.[3] Daeth yn athro mathemateg a cherddoriaeth yn Ysgol St Joan of Arc, Bootle, ac roedd hefyd yn brifathro cynorthwyol.[4] Ar ôl ei ddiwrnod gwaith byddai'n ymddangos fel digrifwr mewn clybiau dynion dosbarth gweithiol.

Gyrfa deledu[golygu | golygu cod]

Daeth ei cyfle cyntaf ym myd teledu pan ymddangosodd ar The Comedians.[5] Yn ystod y 1970au a'r 1980au, roedd yn un o'r wynebau mwyaf poblogaidd ar deledu Prydain. Roedd yn destun y rhaglen deledu This Is Your Life ym 1977 pan gafodd ei ddal yn annisgwyl gan Eamonn Andrews.

Parhaodd i gyflwyno nifer o sioeau gan gynnwys Name that Tune, Wednesday at 8, The Tom O'Connor Show, Gambit, Crosswits, a llawer mwy gan gynnwys The Tom O'Connor Road Show ar gyfer y BBC.[6] Roedd y sioe ddyddiol hon ymlaen dros amser cinio ac roedd dros 12 miliwn o wylwyr yn ei gwylio bob dydd, ond roedd yn sioe ddrud iawn i'w chynhyrchu am iddi ddod yn fyw o dref wahanol bob wythnos, gan ei gwneud yn ofynnol i'r tîm cynhyrchu symud yn wythnosol. Roedd gan y sioe sawl cynhyrchydd ifanc a oruchwyliwyd gan y cynhyrchydd gweithredol Steve Weddel, ac ddaeth allan o Pebble Mill Studios y BBC sydd bellach wedi ei dymchwel. Ysgrifennwyd y sgript gan O'Connor a'r ysgrifennwr Barry Faulkner, a oedd wedi gweithio gydag O'Connor ar ei sioeau blaenorol, gyda newidiadau funud olaf yn cael eu gwneud ychydig cyn ei ddarlledu.

Yn 2000, gwnaeth O'Connor ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu fel y Tad Tom (offeiriad Catholig) yng nghyfres y BBC, Doctors.[7] Ar 24 Chwefror 2006, cafodd wobr am iddo ymddangos fel gwestai ar y rhaglen deledu Countdown am y 100fed tro. Enillodd O'Connor Celebrity Come Dine with Me, gyda sgôr record o 29/30, ar 14 Mawrth 2010.[8]

Yn 2011, ymddangosodd O'Connor ar Pointless Celebrities, rhifyn enwog o sioe gemau BBC One Pointless, gyda'i ferch-yng-nghyfraith Denise Lewis (yr heptathletwr Olympaidd a enillodd fedal aur). Fe gyrhaeddon nhw'r rownd derfynol, gan ennill £500 yn y pen draw i elusen.[9]

Gyrfa lwyfan[golygu | golygu cod]

Ei ymddangosiad cyntaf fel actor ar lwyfan oedd fel Pike yn The Perils of the Pond yn y Playhouse, Weston-super-Mare, ym 1991.[5] Ymddangosodd O'Connor hefyd mewn theatr stoc yr haf, teithiau cabaret a phantomeimiau.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw O'Connor, a oedd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson yn 2007, yn yr ysbyty ar 18 Gorffennaf 2021, yn 85 oed.[10]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Tom O'Connor's Book of Liverpool Humour (1987)
  • Tom O'Connor's Book of the World's Worst Jokes (Pestalozzi Children's Village Trust, 1991)
  • From the Wood to the Tees: An Amusing Golf Companion (Robson, 1992)
  • One Flew Over the Clubhouse (Robson, 1993)
  • Take a Funny Turn (Robson, 1994)
  • Follow Me, I'm Right Behind You! (Robson, 1995)
  • Eat Like a Horse, Drink Like a Fish (Robson, 1996).
  • Fit to Travel (Acer Designs, 2004)
  • Golf...is Where You Find It (Acer Designs, 2005)
  • Is There Anything in that Empty Box? (Acer Designs, 2005)
  • I Remember: the Collected Thoughts of Tom O’Connor (Acer Designs, 2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tom O Connor Death: English Comedian Tom O Connor is Dead, Obituary" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-18. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2021.
  2. "Friends of St Mary's College". St Marys College.
  3. "News from St Mary's". stmarys.ac.uk.
  4. "Tom O'Connor obituary". The Guardian. 19 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2021.
  5. 5.0 5.1 www.9xb.com. "Tom O'Connor". Prime Performers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-22. Cyrchwyd 2021-07-19.
  6. Bonner, Neil (12 Ebrill 2014). "Whatever happened to Name That Tune's Tom O'Connor?".
  7. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2016. Cyrchwyd 10 Hydref 2016.CS1 maint: archived copy as title (link)
  8. Thompson, Damian (12 Mawrth 2010). "Tropic of Cancer, BBC One, Celebrity Come Dine with Me, review".
  9. "Series 1, Pointless Celebrities – BBC One". BBC.
  10. "Comedian Tom O'Connor dies aged 81". BBC News. 18 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]