Timothy Evans (tenor)

Oddi ar Wicipedia
Clawr hunangofiant Timothy Evans, Pafaroti Llanbed, a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch

Canwr o Lanbedr Pont Steffan yw Timothy Evans, neu ar lafar, Pafaroti Llanbed (ganed tua 1961).[1] Caiff ei gydnabod fel "un o denoriaid gorau Cymru".[2]

Daeth Timothy Evans i amlygrwydd mewn eisteddfodau: mae wedi ennill ar yr unawd tenor bum gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a theirgwaith yn Eisteddfod Gydwladol Llangollen. Ym 1991, enillodd wobr Canwr y Flwyddyn yn Llangollen.

Dai Jones Llanilar roddodd yr enw Pafaroti Llanbed arno yn gyntaf (gan ei gymharu â'r tenor byd-enwog Luciano Pavarotti), a hynny ar ei raglen ceisiadau boblogaidd Ar eich cais ar Radio Cymru lle caiff recordiau Timothy Evans eu chwarae'n gyson.[3] Er ei fod wedi teithio'r byd yn canu yn achlysurol, dewisodd aros yn ei fro enedigol i amaethu a gweithio yn Swyddfa Bost y teulu yn hytrach na mynd ati i wneud enw iddo'i hunan ar y llwyfan rhyngwladol.[4]

Recordiau[golygu | golygu cod]

  • Clyw fy nghân (1996)
  • Yr Hudol Awr (1999)
  • Timothy (2001)
  • Dim ond un gair (2003)
  • Dagrau (2009)[5]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]