The Shawshank Redemption
Poster theatraidd |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Frank Darabont |
| Cynhyrchydd | Niki Marvin |
| Ysgrifennwr | Frank Darabont |
| Serennu | Tim Robbins Morgan Freeman |
| Cerddoriaeth | Thomas Newman |
| Sinematograffeg | Roger Deakins |
| Golygydd | Richard Francis-Bruce |
| Cwmni Cynhyrchu | Castle Rock Entertainment |
| Dosbarthydd | Columbia Pictures (theatraidd) Warner Bros. (cyfryngau cartref) |
| Dyddiad rhyddhau | 23 Medi 1994 |
| Amser rhedeg | 142 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $25 miliwn[1] |
| Refeniw gros | $28,341,469[1] |
Ffilm ddrama Americanaidd o 1994 yw The Shawshank Redemption a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Frank Darabont ac sy'n serennu Tim Robbins a Morgan Freeman.
Cafodd y ffilm ei haddasu o'r stori Rita Hayworth and Shawshank Redemption sy'n ymddangos yn y gyfrol Different Seasons gan Stephen King, ac mae'n portreadu Andy Dufresne, bancwr sy'n treulio bron i ddwy ddegawd ym Mhenydfa Daleithiol Shawshank am lofruddiaeth ei wraig a'i chariad er iddo honni ei fod yn ddieuog. Yn ystod ei amser yn y carchar, mae'n dod yn gyfaill i'w gyd-garcharor Ellis "Red" Redding, ac mae'n cael ei amddiffyn gan y gardiau ar ôl i'r warden ddechrau ei ddefnyddio wrth brosesu arian anghyfreithlon.
Er y derbyniad llugoer yn y swyddfa docynnau (a oedd prin yn cyflenwi ei chyllideb), cafodd y ffilm adolygiadau ffafriol gan feirniaid, nifer o enwebiadau am wobrau, ac wedi bod yn boblogaidd iawn ar deledu cebl, VHS, DVD, a Blu-ray, ac yn 2007 cafodd ei chynnwys yn rhestr yr American Film Institute o gant ffilm orau yr Unol Daleithiau.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Shawshank Redemption. Box Office Mojo.
- ↑ (Saesneg) Gilbey, Ryan (26 Medi 2004). Film: Why are we still so captivated?. The Sunday Times.