The Aberdare Times

Oddi ar Wicipedia
Aberdare Times 6 Ebrill 1861

Papur newydd Saesneg yn bennaf, wythnosol oedd The Aberdare Times, a'i brif gynnwys oedd newyddion lleol. Roedd ganddo dueddiadau rhyddfrydol a llafur.

Cylch ei werthiant oedd ardaloedd Merthyr, Hirwaun, Aberpennar, Pontypridd, Cwm Nedd, Cwm Rhondda, Caerdydd a De Cymru'n gyffredinol. Josiah Thomas Jones (1799–1873) a sefydlodd y papur, a fo hefyd oedd y perchennog, y cyhoeddwr a’r golygydd.

Gwerthwyd y papur ym 1902 i berchnogion The Aberdare Leader .

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]