Telynegion Maes a Môr

Oddi ar Wicipedia
Telynegion Maes a Môr
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata


Cyfrol o gerddi gan Eifion Wyn (1867–1926) yw Telynegion Maes a Môr, a gyhoeddwyd gan yr Educational Publishing Co., Caerdydd, yn 1908. Dyma lyfr enwocaf y bardd, a wnaeth enw iddo fel telynegwr ac a ddaeth yn un o lyfrau mwyaf poblogaidd ei ddydd gyda llawer o'r cerddi yn ddarnau adrodd cyfarwydd ledled y wlad.

Mae'r gyfrol yn ymrannu'n saith adran o gerddi:

Telynegion Bywyd
Telynegion Men
Telynegion Serch
Telynegion y Misoedd
Telynegion y Maes
Telynegion y Môr
Telynegion Cymru
Dyma un o gerddi yn yr adran "Telynegion y Misoedd"
MAI
Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi yn yr helyg,
Gyda'i flodau fel y barrug -
Gwyn fy myd bob tro y dêl.
Eis yn fore tua'r waen,
Er mwyn gweld y gwlith ar wasgar,
Ond yr oedd y gwersyll cynnar
Wedi codi o fy mlaen.
Eistedd wnes tan brennau'r Glôg,
Ar ddyfodiad y deheuwynt;
Edn glâs ddisgynnodd arnynt
Gan barablu enw'r gôg.
Ni rois gam ar lawr y wig
Heb fod clychau'r haf o tano,
Fel diferion o ryw lasfro
Wedi disgyn rhwng y brig.
Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda'i firi, gyda'i flodau,
Gyda dydd fy ngeni innau -
Gwyn fy myd bob tro y dêl.