Eliseus Williams (Eifion Wyn)
Bardd oedd Eliseus Williams, enw barddol Eifion Wyn (2 Mai 1867 – 13 Hydref 1926), a aned ym Mhorthmadog yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd heddiw).
Cynnwys |
Ei hanes[golygu]
Ganwyd Eifion Wyn yn y Garth, Porthmadog. Brodorion o Chwilog oedd ei rieni.
Er na chafodd lawer o fanteision addysg ei hun llwyddodd i fod yn athro a gwasanethodd ym Mhorthmadog ac wedyn yn Mhentrefoelas. Yn ogystal roedd yn glerc ar hyd ei oes i Gwmni Llechi Gogledd Cymru.
Dioddefai byliau tost o afiechyd ar hyd ei oes. Cafodd ei gladdu yn ymyl ei rieni a'i chwaer ym mynwent Chwilog.
Ei farddoniaeth[golygu]
Roedd yn fardd cynhyrchiol a phoblogaidd. Un o'i gyfeillion oedd y bardd dall J.R. Tryfanwy, o Rostryfan. Cafodd ei farddoniaeth ddylanwad mawr yn ei gyfnod ac fe'i ystyrid gan lawer yn un o feirdd gorau'r oes. Gwelir ei waith ar ei orau yn y cyfrolau Telynegion Maes a Môr (1906) a Caniadau'r Allt (1927). Roedd yn emynydd yn ogystal ac erys rhai o'i emynau'n boblogaidd.
Llyfryddiaeth[golygu]
Gwaith Eifion Wyn[golygu]
- Ieuenctid y Dydd (1894)
- Y Bugail (c. 1900)
- Telynegion Maes a Môr (1906)
- Caniadau'r Allt (1927)
- O Drum i Draeth (1929)
Astudiaethau[golygu]
- Peredur Wyn Williams, Cofiant Eifion Wyn (1980). Cofiant iddo gan ei fab.