Teilwng yw'r Oen

Oddi ar Wicipedia
Teilwng yw'r Oen
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata

Cyfaddasiad roc o waith Georg Friedrich Händel, Messiah (Meseia), gan Tom Parker yw Teilwng yw'r Oen. Crëwyd yr addasiad yn Saesneg yn gyntaf o dan y teitl The Young Messiah yn 1982. Mae'n cynnwys casgliad o ddarnau sy'n cynnwys llefaru yn seiliedig ar y ddarlleniadau o'r Beibl, ynghyd â cherddoriaeth. Cafodd ei ryddhau yn Gymraeg gan Recordiau Sain ar finyl yn 1984. Syniad David Richards oedd creu'r addasiad Cymraeg ac aeth yn ei flaen i'w gynhyrchu, a chanwyd y darnau lleisiol yn wreiddiol gan Sue Jones Davies, Sonia Jones a Geraint Griffiths.[1]

Cafodd cryno ddisg 'Teilwng yw'r Oen' ei ryddhau, eto dan label Recordiau Sain, yn 1999.

Cafodd addasiad newydd gan Mei Gwynedd a John Quirk, gyda'r geiriau wedi'u hadolygu gan John Gwilym Jones, ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.[2]

Mae'r cyfaddasiad yn cynnwys y darnau canlynol:

1. Hedd yn awr

2. Pob cwm isel

3. Ond pwy a all ddal

4. O ti sy'n dod â'r newyddion

5. Bachgen a aned

6. Fe ddaw â bwyd i'w braidd

7. Rho gân lawen

8. Fe gafodd ddirmyg

9. Mor hyfryd o hardd

10. Haleliwia

11. Mi wn, mae mhrynwr i yn fyw

12. Teilwng yw yr Oen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'Nôl i'r 80au gyda chast gwreiddiol Teilwng Yw'r Oen' BBC Cymru Fyw". 20 Ebrill 2018.
  2. "Teilwng Yw'r Oen yn Eisteddfod Genedlaethol 2018".[dolen marw]